GC2018: Day 1 Highlights
BALL A MITCHELL YN ENNILL Y FEDAL GYNTAF I DÎM CYMRU AR YR ARFORDIR AUR
Y pâr tandem yn cipio’r arian yn Felodrôm Anna Meares
Hefyd:
Cychwyn anhygoel i dîm hoci’r merched gyda buddugoliaeth hanesyddol dros India
Anna Hursey, 11, yn ennill ei gêm gyntaf yn y dyblau yng Ngemau 2018
Cipiodd y para-feiciwr James Ball a’i beilot tandem Pete Mitchell y fedal gyntaf i Gymru yn y Gemau ar ddiwrnod cynta’r cystadlu ar yr Arfordir Aur.
Enillodd Ball, o Gasnewydd, a Mitchell, y fedal arian yn y treial amser 1000m i athletwyr â nam ar eu golwg, a hynny yn Felodrôm Anna Meares ym Mrisbane.
“Rydyn ni ar ben ein digon ar ôl ennill y fedal gyntaf i Gymru,” meddai Ball ar ôl i’r partneriaid tandem dderbyn eu medal gan Camilla, Duges Cernyw.
“Roeddwn i’n gwybod y byddai’r gystadleuaeth yn un galed, ond roedden ni’n ffres ar ôl perfformio’n gryf ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Rio. Mae gennym ni fwy o waith i’w wneud – dydi Pete a finnau ddim wedi bod efo’n gilydd yn hir iawn. Ond gobeithio y medraf wneud Cymru yn falch wrth gystadlu am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad.”
Ychwanegodd Mitchell: “Mae’n deimlad mor arbennig bod yn rhan o fuddugoliaeth i Gymru yn y Gemau hyn ac i gyfrannu at ennill y fedal gyntaf. Mae’r awyrgylch wedi bod mor bositif ac mae pawb yn edrych ymlaen i rasio. Mae’n wirioneddol wych cael bod yn rhan o hynny.”
HOCI
Yn gynharach, cafodd tîm Hoci Merched Cymru un o’u buddugoliaethau mwyaf erioed ar ôl ennill o 3-2 yn erbyn India yng Nghanolfan Hoci’r Arfordir Aur.
Sgoriodd Natasha Marke-Jones gôl ffantastig gydag un llaw i ennill y gêm, gyda dim ond tair munud i fynd, a hynny’n erbyn tîm sydd wedi’i rancio 16 lle yn uwch na nhw yn rancings y byd (Cymru 26, India 10).
Dyma’r tro cyntaf mewn mwy na 30 o flynyddoedd i garfan merched Cymru ennill yn erbyn tîm sydd yn y 10 uchaf.
Roedd Cymru ar y blaen ar hanner amser yn dilyn gôl Lisa Daley a fflic benalti gan Sian French. Ond daeth India yn ôl yn gyfartal yn y trydydd chwarter cyn i gôl Marke-Jones gipio’r pwyntiau.
“Dyna un o’r goliau gorau i mi ei sgorio erioed,” meddai’r chwaraewraig canol cae o Ben-y-bont. “Mae sgorio’r gôl i ennill ein gêm gyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad fel gwireddu breuddwyd. Mae’r fuddugoliaeth heddiw yn gosod y cywair ar gyfer gweddill y gystadleuaeth. Mae’n dangos fod gennym ni uchelgais.
“Ddwy flynedd yn ôl, mi fydden ni wedi setlo am gêm gyfartal 2-2 yn erbyn tîm sydd yn y degfed safle, ond y tro hwn mi ddaru ni eu herio go iawn a dal ati.”
Dyma oedd y tro cyntaf i ddwy chwaraewraig ddeunaw oed – Caro Hulme ac Izzy Howell – chwarae i’r tîm hŷn. Torrwyd record gan y capten Leah Wilkinson wrth iddi gael ei 142 fed cap dros Gymru – yn sgil hynny, hi yw’r fenyw sydd wedi chwarae’r nifer fwyaf erioed o gemau i Gymru.
“Fydden i ddim wedi gallu dewis diwrnod gwell. Dyma’r fuddugoliaeth fwyaf i mi fod yn rhan ohoni trwy gydol fy ngyrfa hoci, ac ar ben hynny rwy’n gapten ar y tîm ac wedi ennill fy 142 fed cap – dwi ar ben fy nigon!”
Mae’r fuddugoliaeth yn hwb mawr i Gymru cyn y gêm nesaf yn erbyn Lloegr nos Wener (1930 amser lleol; 1030am BST).
Daeth tîm Hoci’r Dynion yn agos at sicrhau buddugoliaeth debyg yn erbyn Pakistan, sydd wedi’u rancio 11 o lefydd yn uwch, ond gêm gyfartal oedd hi yn y diwedd.
Er i Bakistan reoli’r gêm am lawer o’r amser, Cymru enillodd y gôl gyntaf diolch i Rupert Shipperley.
Fodd bynnag, ddaru hynny ddim ond para chwe munud cyn i Bakistan sgorio trwy Ali Mubashar o gornel benalti. 1 – 1 oedd y sgôr terfynol.
“Llithrodd y cyfle o’n dwylo ac mi fydden ni wedi gallu gwneud gyda thipyn bach mwy o fomentwm,” meddai’r capten Lewis Prosser.
“Mi ddylen ni edrych yn ôl ar ein perfformiad heddiw. Ond rydyn ni wedi datblygu cymaint yn y pum mlynedd diwethaf ac mae gennym ni lawer mwy i’w roi.”
Mi fydd y dynion yn wynebu Malaysia ddydd Sadwrn 7 Ebrill.
TRIATHLON
Gorffennodd capten Tîm Cymru Non Stanford yn yr wythfed lle yn nhriathlon y merched ar ôl cychwyn anodd yn y dŵr. Roedd hi ar y blaen ar lap cynta’r beicio ond llithrodd yn ôl ar yr ail, gan orffen bron i ddwy funud ar ôl yr enillydd o Bermuda.
“Rwy’n siomedig ond ro’n i’n gwybod o’r cychwyn y byddai hyn yn her i mi. Roeddwn i’n arafach nag oeddwn i wedi’i obeithio gyda’r trawsnewidiadau a doedd gen i mo’r cryfder yn fy nghoesau erbyn y rhedeg. Ond wedi dweud hynny, rwy’n hynod falch o fod yn cynrychioli fy nghenedl ac rwy’n gobeithio y gall hyn ddangos i weddill y tîm fod rhaid i chi ddal ati hyd yn oed pan nad yw pethau’n troi allan yn ôl y bwriad. Mae gen i’r ras gyfnewid ddydd Sadwrn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.”
NOFIO
Ar noson gyntaf rowndiau terfynol y nofio, daeth gobaith y byddai Dan Jervis yn ennill medal i Gymru yn y nofio dull rhydd 400m ar ôl cymhwyso fel yr ail gyflymaf. Gorffennodd yn y pedwerydd safle, wrth i’r Pencampwr Olympaidd o Loegr Mack Horton gipio’r aur. Ond doedd Dan ddim yn siomedig.
“Rwyf wrth fy modd! Efallai mai pedwerydd o’n i ond mae’r dalent yn y pwll mor anhygoel ac nid dyma fy mhrif gystadleuaeth i. Alla i ddim coelio mod i newydd lwyddo i wneud gystal!”
Daeth Jack Thomas yn 5ed ac Alex Rosser yn 6ed yn y nofio dull rhydd 200m categori S14 i ddynion, ac fe gymhwysodd Chloe Tutton yn y dull pili-pala 50m gydag amser o 31:43.
Bydd Xavier Castelli yn nofio am fedal yn ffeinal y 100m dull cefn i ddynion ar ôl cymhwyso gydag amser o 55:13. Cyrhaeddodd Alys Thomas ffeinal y 100m dull pili-pala, ond yn anffodus ni chymhwysodd Harriet Jones a Harriet West.
BOCSIO
Cipiodd Billy Edwards y fuddugoliaeth gyntaf i Dîm Cymru yn y bocsio yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.
Dechreuodd Billy, sydd wedi bod yn bencampwr cenedlaethol saith gwaith, yn ddigon araf gydag Alston Ryan o Antigua yn rheoli llawer o’r rownd gyntaf. Ond wrth i’r frwydr fynd rhagddi, daeth y bocsiwr 21 oed sy’n hyfforddi gyda Chlwb Bocsio Dyffryn ym Mae Colwyn, i’r brig a phob un o’r pum beirniad yn sgorio o’i blaid.
“Alla i ddim disgrifio sut dwi’n teimlo ar y funud,” meddai Edwards. “Mi ddechreuais i braidd yn araf ond gobeithio y gallaf ddal i fynd yn gryf i’r frwydr nesaf.
“Mae gen i lawer o barch at Ryan, roedd rhaid i’r ddau ohono ni frwydro’n galed ond dwi wrth fy modd mod i wedi ennill. Mae’n deimlad gwefreiddiol.”
Bydd Billy’n awr yn wynebu Nkumbu Silungwe o Zambia yn yr 16 olaf ddydd Sul am 1300 amser lleol (0400 BST) yn Stiwdios Oxenford.
BEICIO
Yn cystadlu yn y ras tîm i ferched ar y trac beicio ym Mrisbane roedd Jess Roberts, Manon Lloyd, Ciara Horne a Megan Barker. Daethant yn 5ed gydag amser o 4:24:825, ddim ond trwch blewyn o feicio am y fedal efydd, gyda Lloegr yn y pedwerydd safle gydag amser o 4:24:519.
Yn ras tîm 4000m y dynion, cymhwysodd Rhys Britton, Sam Harrison, Joe Holt ac Ethan Vernon i feicio am yr efydd. Er iddyn nhw frwydro’n galed yn erbyn Canada, doedd lle ar y podiwm ddim i fod, ac fe orffennon nhw yn y pedwerydd lle gydag amser o 4.01:362.
Roedd hi’n agos iawn i Ellie Coster a Rachel James yn ras efydd sbrint tîm y merched hefyd, ond Katie Marchant a Lauren Bate o Dîm Lleogr aeth a’r fedal efydd.
TENIS BWRDD
Chwaraeodd Anna Hursey sy’n 11 oed – yr athletwr ieuengaf yn y Gemau – yn hyderus yn ei gêm gyntaf (dyblau) yn erbyn India yn y gystadleuaeth tîm i ferched. Er iddi hi a Charlotte Carey ennill y gêm gyntaf, aeth Cymru ymlaen i golli o 3-1.
Meddai Anna: “Roeddwn i’n edrych ymlaen ac ychydig bach yn nerfus ar yr un pryd, ond ro’n i’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus gan mod i’n chwarae gyda Charlotte. Doedd y profiad ddim yn un mor frawychus â hynny ar ôl i’r gêm gychwyn ac mi wnes i fwynhau’n fawr.”
Ymhlith canlyniadau eraill y dydd:
· Codi pwysau – Seth Casidsid 9fed yng nghystadleuaeth 56kg y dynion; Hannah Powell 10fed yn y categori 48kh i ferched.
· Bowlio Lawnt – enillodd Laura Daniels ddwy gêm yn senglau’r merched; enillodd y dynion yn y triawdau yn erbyn India a De Affrica; enillodd y dynion yn y parau yn erbyn Ynys Manaw o 22-11 cyn colli yn erbyn De Affrica; ac enillodd y merched yn y pedwarawdau yn erbyn Niue ar ôl colli yn erbyn Canada; a chollodd y triawdau agored B^/B&/B* i Seland Newydd.
· Sboncen – enillodd Dean Sakin gêm rownd o 64, a symudodd Tesni Evans i’r 16 olaf ar ôl ennill yn erbyn Taylor Fernandes Guy o Guyana o 3-0. Mae Peter Creed allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli o 3-1 yn erbyn Lewis Walters o Jamaica, ac mae Joel Makin drwodd i’r 32 olaf wedi ennill o 3-0 yn erbyn Ffiji.
· Gymnasteg Tîm y Dynion – Daeth Jac Davies, Benjamin Eyre, Iwan Metham, Josh Cook a Clinton Purnell yn seithfed gan gymhwyso ar gyfer y rownd derfynol. Cymhwysodd Davies a Mepham ar gyfer y ffeinal yn y gymnasteg cyfarpar artistig, a sicrhaodd Purnell a Cook le yn y rownd derfynol gyffredinol ddydd Sadwrn.
Am
amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Gwener 6ed Ebrill,
ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm