Could you lead Team Wales to success at the 2018 Commonwealth Games?

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn chwilio am arweinydd ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Awstralia yn 2018.

Gemau’r Gymanwlad Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am bob elfen o Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru ac maen nhw’n chwilio am unigolyn a all lenwi rôl Chef de Mission. Mae’r rôl yn ymwneud ag arwain tîm o athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff cefnogi o Gymru i’r 21ain Gemau yn Awstralia.

Yn ogystal â bod yn frwd dros chwaraeon ac yn angerddol dros Gymru, mae gofyn hefyd am sgiliau arweinyddol a’r gallu i ysbrydoli.

Yn draddodiadol, mae’r rôl wedi cael ei llenwi gan bobl o fyd chwaraeon ond y tro hwn mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn chwilio yn ehangach. Maen nhw’n awyddus i ddenu ceisiadau gan arweinyddion o bob math o gefndiroedd gan gynnwys byd busnes, diwydiant ac academia.

Gwelwyd y perfformiad gorau erioed gan Dîm Cymru yn Glasgow yn 2014, ac mae disgwyl i’r Chef de Mission nesaf weithio gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru i greu llwyfan ardderchog ar gyfer sicrhau mwy o lwyddiant fyth i athletwyr Cymreig yn y Gemau. Bydd ef neu hi yn atebol i Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru ac yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cefnogaeth y genedl gyfan i’r Tîm.

Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’r paratoadau wedi hen gychwyn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018. Y Gemau hyn fydd y cyfle nesaf i athletwyr o Gymru gynrychioli eu gwlad mewn digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol. Ein nod a’n blaenoriaeth ni yw cefnogi ein hathletwyr i gael y llwyddiant gorau bosibl ac i ennill yn erbyn eu cystadleuwyr.

“Bydd y Chef de Mission yn gweithio’n agos gyda’n Prif Weithredwr, Chris Jenkins, a’r Bwrdd cyn y Gemau i sicrhau bod yr amgylchiadau’n bodoli ar gyfer ardderchogrwydd ym mhob agwedd ar berfformiad Tîm Cymru.”

Ychwanegodd: “Mae arweinyddiaeth gadarn yn allweddol o ran sicrhau llwyddiant ym myd chwaraeon. Trwy edrych y tu hwnt i fyd chwaraeon, rydyn ni’n gobeithio denu ceisiadau gan bob math o bobl sydd â sgiliau arwain ac ysgogi yn ogystal â dealltwriaeth gref o bwysigrwydd chwaraeon yng Nghymru.”

Brian Davies oedd y Chef de Mission yn Glasgow yn 2014. Ers hynny mae wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Perfformiad Elitaidd gyda Chwaraeon Cymru. Cafodd ei anrhydeddu gydag OBE y llynedd am wasanaethau i’r byd chwaraeon ar ôl arwain Tîm Cymru yn y Gemau mwyaf llwyddiannus erioed o ran y nifer o fedalau a enillwyd i Gymru.

Dywedodd Brian: “Roedd hi wir yn fraint bod yn Chef de Mission yn Glasgow. Mae’n gallu bod yn rôl heriol ac mae llawer o gyfrifoldeb, ond mae’n rhoi boddhad enfawr yn enwedig wrth weld y Tîm yn llwyddo fel y gwnaeth yn Glasgow. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i mi ac rwy’n annog unrhyw un sy’n frwdfrydig dros chwaraeon ac sydd â’r gallu i arwain i wneud cais.

“Bydd yr her yn un wahanol i’r Chef nesaf, yn enwedig gan fod cymaint o bellter daearyddol a gwahaniaeth amser rhwng Cymru ac Awstralia. Bydd hyn yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod Cymru gyfan y tu ôl i’r Tîm. Gall y sawl a benodir fod yn ffyddiog y bydd Bwrdd a staff Gemau’r Gymanwlad Cymru, y cyrff llywodraethu a phawb arall sy’n ymwneud â Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru ar gael i’w cefnog i gyflawni’r gôl yma.”

Enillodd Frankie Jones chwe medal mewn gymnasteg yn Glasgow gan gynnwys pum medal arian ac aur. Mae hi bellach wedi ymddeol ac yn eistedd ar Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru. Meddai: “Roedden ni’n lwcus iawn yn Glasgow i gael Brian Davies OBE wrth y llyw. Roedd ei wybodaeth am chwaraeon elitaidd, ei frwdfrydedd dros Gymru a’r Tîm a’i sgiliau arweinyddol arbennig yn allweddol o ran ein cefnogi ni fel athletwyr. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pwy a benodir i arwain Tîm Cymru i Gemau’r Gymanwlad yn 2018. ”

Os oes gennych chi’r profiad a’r sgiliau perthnasol i arwain, uno ac ysbrydoli’r Tîm nesaf o Gymru yn Ngemau’r Gymanwlad, anfonwch lythyr a CV at cjenkins@teamwales.net erbyn Dydd Llun 29ain Chwefror 2016.

Bydd enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4ydd, union 2 flynedd cyn y seremoni agoriadol yn Awstralia.

Y RÔL

Beth yw Chef de Mission?

Chef de Mission yw teitl arweinydd tîm cenedlaethol mewn digwyddiadau chwaraeon sylweddol, yn cynnwys Gemau’r Gymanwlad.

Ymhlith y rhai a benodwyd ar gyfer y rôl yng Nghymru yn y gorffennol mae:

  • Brian Davies OBE, Glasgow 2014
  • Chris Jenkins, Delhi 2010
  • Anne Ellis OBE, Melbourne 2006

Pa gyfrifoldebau sy’n dod gyda’r rôl?

Bydd Chef de Mission Cymru ar gyfer Gemau Awstralia yn atebol i Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru ac yn gyfrifol am arwain a goruchwylio’r Tîm yn ystod y Gemau. Mae’r rôl hefyd yn ymwneud â:

  • Cynrychioli Tîm Cymru yng nghyfarfodydd Chef de Mission dyddiol Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad a Phwyllgor Trefnu Gemau Awstralia.
  • Chwarae rôl allweddol mewn cynllunio, paratoi, rheoli a dibriffio.
  • Bod yn llefarydd ar ran Tîm Cymru a helpu gyda gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu mewn perthynas â Gemau 2018. • Arwain ac uno tîm o unigolion proffesiynol i gefnogi’r athletwyr a sicrhau llwyddiant.
  • Bod yn atebol i, a chyfathrebu’n ddyddiol gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru trwy’r Cadeirydd.

A yw’r rôl yn un gyflogedig?

Na, mae’n rôl wirfoddol ond telir costau a threuliau.

Beth yw’r amserlen ar gyfer penodi Chef de Mission?

Lansio’r broses recriwtio 20.01.16

Dyddiad cau 29.02.16

Cyfweliadau w/c 07.03.16

Cyhoeddi’r ymgeisydd llwyddiannus 04.04.16

Mwy o wybodaeth

Ceir disgrifiad llawn o’r rôl yma: Chef DM Commonwealth Games Wales Person Specification for Gold Coast 2018 . Os hoffech gael sgwrs am y rôl mae croeso i chi gysylltu â Phrif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru Chris Jenkins ar cjenkins@teamwales.net  neu Gadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru Helen Phillips ar helen.phillips@teamwales.net .