Commonwealth Day 2021: Highlights

Bob blwyddyn, mae pob un o'r 72 o genhedloedd y Gymanwlad o 54 o wledydd yn dod at ei gilydd i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad – gan ddod â'n hundod, ein cyfeillgarwch a'n gwerthoedd cyffredin at ei gilydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal digwyddiad i ddathlu ein llwyddiant fel cenedl chwaraeon, ein balchder a'n hangerdd dros ein gwlad, a hefyd cyfle i rannu ac uno â chenhedloedd eraill y Gymanwlad. Oherwydd y pandemig, dathlwyd thema eleni, 'Cyflawni Dyfodol Cyffredin' mewn ffordd wahanol ond yr un mor werthfawr, gan ddod ag athletwyr, ysgolion a'r gymuned chwaraeon at ei gilydd.

Yn ogystal â'r athletwyr ymroddedig ac angerddol sydd gennym yng Nghymru a rannodd eu straeon ysbrydoledig unwaith eto, cawsom berfformiad unigryw gan gôr rhithwir, talentog ABC ac ABC y Fro.

Gwnaethom hefyd gynhyrchu pecyn gweithgareddau digidol a'i ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru, gan roi cyfle i filoedd o blant ddysgu mwy am Gemau'r Gymanwlad, 'Tîm Cymru' a chyfle i ymgysylltu â ni ar draws y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y dydd.

Roedd Diwrnod y Gymanwlad hefyd yn gyfle i weithio gyda'n partner elusennol, yr URDD a arweiniodd sesiynau chwaraeon byw drwy Zoom drwy'r dydd gyda help llaw gan hyfforddwyr ac athletwyr y Gymanwlad.

I nodi cam yn nes at Gemau Birmingham 2022 fe wnaethom gyhoeddi ein Chef de Mission, a gorffen ein dathliadau gyda'r mezzo-soprano Katherine Jenkins OBE yn canu perfformiad unigryw o'n hanthem genedlaethol. Am ddiweddglo!

Hoffem ddiolch i bawb am wneud Diwrnod y Gymanwlad yn llwyddiant – athletwyr, hyfforddwyr, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, yr Urdd, ysgolion, disgyblion, rhieni a diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas am lansio'r diwrnod gyda'i araith ysbrydoledig.

 

Gallwch edrych yn ôl ar rai o'n hoff uchafbwyntiau yma.