CGW reacts to news that Durban will no longer host 2022 Games
Heddiw (dydd Llun, 13 Mawrth 2017), cyhoeddodd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad (y CGF) na fydd Gemau’r Gymanwlad 2022 bellach yn cael eu cynnal yn ninas Durban yn Ne Affrica, gan nodi nad yw’r meini prawf angenrheidiol ar gyfer cynnal y Gemau wedi eu bodloni.
Maen nhw eisoes wedi cychwyn chwilio am ddinas arall i gynnal y Gemau, ac mae’r CGF yn hyderus y bydd opsiwn arall. Disgwylir cyhoeddiad erbyn diwedd y flwyddyn.
Wrth ymateb i’r newyddion, meddai Helen Phillips, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru:
“Rydyn ni’n siomedig na fydd Gemau’r Gymanwlad 2022 yn cael eu cynnal yn Durban. Byddai wedi bod yn wych gweld De Affrica’n cynnal y Gemau, a byddwn yn eu cefnogi gydag unrhyw fid yn y dyfodol.
“Yn y cyfamser, mae gennym ni bob ffydd y bydd y CGF yn gweithio gyda Chymdeithasau Gemau’r Gymanwlad i ddod o hyd i ddatrysiad addas ar gyfer Gemau 2022.
“Byddwn yn dymuno’n dda i ba bynnag ddinas neu wlad a ddewisir ar gyfer Gemau 2022 ac yn gweithio’n agos gyda nhw i gynnal digwyddiad llwyddiannus i bawb.”
Ychwanegodd: “Mae ein ffocws ni bob amser ar anfon tîm o’n hathletwyr elitaidd gorau o Gymru i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ac i adeiladu ar sail record wych Tîm Cymru, lle bynnag y cynhelir y Gemau.
“Mae’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia yn mynd rhagddynt yn ardderchog ac mae cyhoeddiad llwybr Taith Baton y Frenhines yng Nghymru yr wythnos hon yn gam arall cyffrous arall ar ein taith.”