Ashton Hewitt
Non Executive Director
Ar hyn o bryd mae Ashton yn chwarae rygbi proffesiynol i dîm rhanbarthol Dreigiau Casnewydd, lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf proffesiynol yn 17 oed ar ôl symud ymlaen drwy system yr academi. Ochr yn ochr â’i yrfa rygbi, mae Ashton wedi cwblhau gradd mewn Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid, ac yna Gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Ar ôl cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon cyn ei yrfa rygbi, mae gan Ashton ddiddordeb brwd mewn ystod eang o chwaraeon y mae’n gobeithio eu trosglwyddo fel cyfraniadau i’r Tîm. Mae gan Ashton angerdd dros gydraddoldeb a thegwch, ac mae’n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm Gemau’r Gymanwlad Cymru i lwyddo yng ngemau 2022.