Anna Stembridge
Non Executive Director
Mae gan Anna dros 25 mlynedd o brofiad yn cystadlu ac yn gweithio mewn amgylchedd perfformiad uchel, fel cyn-chwaraewraig pêl-rwyd dros Gymru gan gystadlu ddwywaith yng Ngemau’r Gymanwlad a Chwmpan y Byd, ac fel cyn hyfforddwr carfan Lloegr. Gyda’r cefndir hwn, yn ogystal â bod â llawer o swyddi arwain a strategol o fewn sefydliadau elît, mae Anna yn rhoi cipolwg unigryw a dilys ar ofynion chwaraeon perfformiad, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o’r hyn y mae’n ei gymryd i sicrhau llwyddiant ar y lefel hon. Mae Anna yn angerddol am ddatblygu pobl, yn enwedig menywod mewn chwaraeon a chynhwysiant ac amrywiaeth, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â sawl menter yn y maes hwn yn y gorffennol.