#BarddTîmCymru
Canllawiau'r Gystadleuaeth
- Mae'r gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion Cynradd ac Uwchradd
- Rhaid i geisiadau ddod o blith disgyblion sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru
- Caniateir ceisiadau unigol, fel grŵp neu fel dosbarth
- Gall y cais fod yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog
- Rhaid i'r gerdd fod yn un wreiddiol a heb ei chyhoeddi
- Dim ond un cais a ganiateir i bob person, grŵp neu ddosbarth
- Rhaid mai thema'r gerdd yw 'Tîm Cymru' (Gemau'r Gymanwlad)
- Anfonwch eich cais drwy e-bost neu'r post (manylion isod)
- Dyddiad cau dydd Gwener 21 Chwefror 2020 5pm
Gwobr
- £500 o offer chwaraeon i'r ysgol ar gyfer y cais buddugol
- Bydd ysgol yr enillydd yn derbyn yr offer chwaraeon
- Bydd yr offer sydd ei angen yn cael ei ddewis gan yr ysgol
- Sesiwn hyfforddi i'r ysgol gan un o athletwyr y Gymanwlad
- Tlws ar gyfer y cais buddugol
- Bydd y gerdd yn cael ei datgelu yn nathliad Diwrnod y Gymanwlad Cymru ar 9 Mawrth 2020
Telerau ac Amodau
- Drwy gyflwyno'r gerdd rydych yn cadarnhau caniatâd gan eich rhieni/gwarcheidwaid i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Byddwch yn caniatáu i Gemau'r Gymanwlad Cymru gyhoeddi eich cerdd ar y cyfryngau cymdeithasol a'i defnyddio yn nigwyddiadau Tîm Cymru
Y cerddi buddugol:
- Gellir sôn am yr awdur(on) buddugol wrth ei enw (eu henwau), yn amodol ar ganiatâd rhiant/gwarcheidwad
- I'r athrawon, rhowch wybod i ni os nad ydych am i enw'r ysgol gael ei grybwyll yn yr ymgyrch
I gymryd rhan:
- Cais dros e-bost i cathy.williams@teamwales.cymru
NEU
- Cais drwy'r post at Cathy Williams, Gemau'r Gymanwlad Cymru, 7 Forest Grove, Campws Trefforest , Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1UB
- Rhaid i chi gynnwys:
Enw
Oedran
E-bost (rhiant/gwarcheidwad os o dan 16)
Ysgol
Twitter yr ysgol