Myfyriwr eqUIP Tîm Cymru yn ymweld â Kenya
Gan Maria Jones
Habari?
Ystyr y gair Swahili uchod yw a oes unrhyw beth yn digwydd yn dy fywyd di y dylwn i wybod amdano? Wel, oes fel mae’n digwydd ac rwy’n falch iawn o allu ei rannu gyda chi. Ar 8 Hydref, gadewais gyfandir Ewrop am y tro cyntaf erioed a theithio i Nairobi, Kenya i gymryd rhan yng Ngweithdy Rhaglen Interniaeth eqUIP ar Chwaraeon y Gymanwlad 2024.
Dull i ddatblygu arweinwyr ifanc ledled y Gymanwlad drwy gynnig interniaeth a chyfleoedd gwaith iddynt yw eqUIP, gan eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau drwy chwaraeon. Fel Intern eqUIP sy’n cynrychioli Tîm Cymru ar gyfer 2024/25, byddaf yn treulio blwyddyn ar leoliad gydag interniaid eraill o wahanol wledydd y Gymanwlad. Byddwn i gyd yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol sy’n cael eu cyflwyno gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, gyda’r nod o ddod yn hunanddibynnol a datblygu ein sgiliau arwain ymhellach.
Yn ystod fy nhaith gyntaf i gyfandir Affrica, llwyddais i gymysgu gyda grŵp amrywiol o bobl anhygoel o Dde Affrica, Uganda, Gogledd Iwerddon, Canada, Cameroon, Rwanda, Tanzania, Malawi, Lesotho, Nigeria a Kenya wrth gwrs. Roedd bod yn agored i safbwyntiau amrywiol ac eang yn fodd o ehangu fy mhersbectif ar fywyd, ac roedd cael ymgolli mewn diwylliannau gwahanol hefyd yn ei gyfoethogi. Mae’n brofiad sydd wedi newid fy mywyd ac yn un y byddaf yn ddiolchgar amdano am byth.
Yn ystod fy nghyfnod yn Nairobi, dysgais rywfaint o Swahili (efallai eich bod eisoes wedi sylwi) ond ces gyfle hefyd i gymryd rhan mewn nifer o weithdai sydd wedi creu argraff arna i, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o Dîm Cymru a’r ffordd orau i mi gyfrannu at eu cymuned wrth ddatblygu fy sgiliau arwain ac adrodd straeon ymhellach. Yn ffodus iawn cawsom gyfle i ymweld â chanolfan jiráff a mynd ar Saffari ym Mharc Cenedlaethol Nairobi. Roedd y profiad hwn yn anhygoel. Nid yn unig roedd yn gyfle i weld bywyd gwyllt Kenya gyda fy llygaid fy hun ond hefyd, ac yn bwysicach yn fy marn i, gallu gwneud hynny yng nghwmni grŵp unigryw ac amrywiol o bobl ifanc o’r un anian â fi. Ar noson olaf ein hymweliad, cawsom noson ddiwylliannol, gyda phawb mewn gwisg draddodiadol ac yn rhoi cyflwyniad byr am eu gwlad. Mae’n amhosib disgrifio’r cyffro a’r bywiogrwydd yn yr ystafell; byddwn yn gwneud unrhyw beth i gael profi’r cyfan eto!
Dw i wir yn ystyried y profiad hwn fel un o’r profiadau dw i’n fwyaf balch ohono. Nid yn unig am gael bod yn intern gydag eqUIP, ond hefyd am ddod i adnabod a chydweithio â phobl gwych o bob cwr o’r byd! Yn ôl un ddihareb Affricanaidd os ydych am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun; os ydych am fynd ymhell, ewch gyda’ch gilydd. Cefais flas ar yr undod a’r cydweithio hwn yn ystod fy nghyfnod yn Kenya a dwi’n edrych ymlaen i rannu mwy o brofiadau gyda fy nghyd-interniaid eqUIP!
Asante! (Gair Swahili am Diolch!)