Gemau’r Gymanwlad Cymru yn Croesawu WCS Agency

Tîm Cymru yn sicrhau partneriaeth ag asiantaeth farchnata o Gaerdydd

Bydd yr arbenigwyr marchnata, sydd wedi cynhyrchu cyfleoedd trawiadol ar gyfer eu cleientiaid, gan gynnwys nodweddion gyda nifer o gwmnïau fel ASOS, Forbes, BBC, a Tatler, i enwi ond rhai, nawr yn ymgolli yng ngemau aml-chwaraeon Gemau’r Gymanwlad.

Sefydlodd Chelsea Pinches-Burrowes, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol WCS Agency, sydd hefyd bellach yn berchennog cylchgrawn Cardiff Life, y busnes yn 2010 ac ar hyn o bryd mae ganddi 25 aelod o staff yn gweithio mewn nifer o feysydd fel ymgyrchoedd, marchnata, a brandio, mewn tîm sy’n cael ei arwain gan fenywod. Bydd WCS Agency nawr yn cael y cyfle i gynnig eu harbenigedd allweddol i Dîm Cymru yn ystod eu partneriaeth 4 blynedd.

Dywedodd y sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol, Chelsea Pinches-Burrowes:

“Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner gyda Thîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Yn WCS Agency, rydyn ni wastad wedi bod yn frwd dros hyrwyddo rhagoriaeth a chefnogi ein cymuned leol. Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle gwych i gyfuno ein harbenigedd marchnata ag ysbryd deinamig Tîm Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfrannu at lwyddiant y tîm a gwella’u presenoldeb ar y cae ac oddi arno.”

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru, ‘Mae WCS Agency yn asiantaeth farchnata ysgogol, annibynnol a chyfredol iawn, ac rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner gyda busnes arall angerddol sydd ag enw da yma yng Nghymru.’