Rhaglen eqUIP Botswana
Yr wythnos hon, ymunodd Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW) ag 19 o Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad (CGA) ledled Ewrop, y Caribî ac Affrica ar gyfer gweithdy addysgol rhyngweithiol diweddaraf eqUIP a gynhaliwyd yn Lobaste, Botswana.
Mae eqUIP yn ddull ledled y Gymanwlad o ddatblygu arweinwyr ifanc drwy gynnig interniaeth a chyfleoedd gwaith iddynt, gan eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau drwy chwaraeon.
Mae’r rhaglen, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2014 ac sydd wedi denu 135 o interniaid, yn interniaeth â thâl, a gynhelir mewn partneriaeth â phrifysgolion lleol fel rhan o fenter datblygu byd-eang Ffederasiwn Chwaraeon y Gymanwlad (CSF).
Arweinir y rhaglen gan dîm Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad; Richard de Groen, Ellen Barwise, Ryan Brathwaite a Jeremiah Mpofu a oedd wedi cydlynu’r gweithdy i interniaid newydd o’r bob rhan o’r Gymanwlad. Mae meysydd datblygu allweddol yn amrywio o ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfryngau cymdeithasol, llywodraethu, cyfathrebu a rheoli digwyddiadau.
Mynychodd intern Gemau’r Gymanwlad Cymru, Sumaya Khan y gweithdy gyda’i goruchwyliwr, Cathy Williams (Pennaeth Ymgysylltu CGW). Bydd Sumaya, sy’n astudio BA (Anrh) mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn canolbwyntio ar Farchnata ac Ymgysylltu yn ystod ei chyfnod gyda CGW, a bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio ar y ‘Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid’, y cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus ac ymwybyddiaeth gyffredinol am y brand.
Mae Prifysgol De Cymru, partner CGW wedi rhoi’r cyfle hwn i fyfyrwyr gael profiad ymarferol gwerthfawr o amgylchedd gwaith CGW, gan ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u gyrfa.