Tîm Cymru yn dathlu Diwrnod y Gymanwlad
Ysgol Gynradd Cefn Fforest yn cynnal Diwrnod y Gymanwlad Cymru
Ar Ddiwrnod y Gymanwlad eleni, cynhaliwyd dathliadau Tîm Cymru yn ysgol Gynradd Cefn Fforest yn y Coed-duon, Caerffili, ysgol sydd wedi bod yn gefnogaeth enfawr i Dîm Cymru dros y blynyddoedd, wedi’u hysgogi gan eu hangerdd am chwaraeon, cynhwysiant a rhoi cyfleoedd i bob disgybl yn eu hysgol.
The ceremony featured special guest speakers including 2018 Commonwealth para-powerlifter Nathan Stephens, Team Wales Chef de Mission Nicola Phillips, and a Q & A led by pupils, with international athletes, gymnast Emil Barber, and sprinter Hannah Brier in the hot seats, who are both hoping to clinch their spots with Team Wales at Birmingham this summer.
Nid chwaraeon oedd yr unig adloniant ar yr agenda gyda pherfformiadau gan gerddorion talentog o Gymru, gyda Kizzy Crawford yn perfformio fersiwn acwstig hardd o’i chân ‘Dal yn dynn’, a ‘Chymry’r West End’, dan arweiniad Steffan Hughes, yn cau’r digwyddiad mewn modd trawiadol gyda’u perfformiad anhygoel o anthem genedlaethol Cymru. Yn cefnogi’r pedwarawd (Steffan Hughes, Sophie Evans, Siwan Henderson a Celyn Cartwright) roedd aelodau o gyngor yr ysgol, sydd wedi bod yn brysur yn dysgu arwyddo corws yr anthem, gyda diolch arbennig i ‘Cyngor Pobl Fyddar Cymru’ a Mrs Jayne-Willis, (Dirprwy Bennaeth) am weithio’n agos gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru.
The event’s compere, Cathy Williams (Head of Engagement, CGW) also introduced pupils who took the stage to talk about Team Wales, Commonwealth icons, the Birmingham 2022 games (which are in exactly 136 days!), and their aspirations for the future.
Dywedodd Mrs Farmer, Pennaeth Ysgol Gynradd Cefn Fforest,“Mae Ysgol Gynradd Cefn Fforest yn dathlu Diwrnod y Gymanwlad bob blwyddyn. Mae’n gyfle gwych i’n disgyblion ddysgu am natur amrywiol gwledydd y Gymanwlad, eu harferion a’u hanes. Mae ein disgyblion yn dysgu am gemau’r Gymanwlad, y chwaraeon sydd wedi’u cynnwys a straeon yr athletwyr sy’n cystadlu dros eu gwledydd. Mae disgyblion hyd yn oed yn cael cyfle i roi cynnig ar rai o’r chwaraeon y byddant yn eu gweld yn y gemau. Rydyn ni am ysbrydoli’r disgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael Gemau’r Gymanwlad cartref a byddwn yn annog athletwyr Tîm Cymru yn eu blaenau ym mis Gorffennaf. Dewch ‘mlaen Tîm Cymru!””.
Cynhelir Diwrnod y Gymanwlad bob blwyddyn ar ail ddydd Llun mis Mawrth, gan ddod â 72 o wledydd a thiriogaethau ar draws y Gymanwlad at ei gilydd.
Eleni, y thema yw “Sicrhau Dyfodol Cyffredin”, gan ddefnyddio chwaraeon i adeiladu cymunedau heddychlon, cynaliadwy a ffyniannus ar draws y Gymanwlad.
Cynhaliwyd gwasanaeth swyddogol Diwrnod y Gymanwlad yn Abaty Westminster gyda’r Teulu Brenhinol a nifer o gynrychiolwyr o bob rhan o’r Gymanwlad.
Yng Nghanolbarth Lloegr, cafodd digwyddiad ei gynnal yn Birmingham hefyd yn Stadiwm Alexander, y lleoliad arbennig sy’n cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd i gynnal Seremonïau a chystadlaethau athletau Birmingham 2022.
Ychwanegodd Chris Jenkins, y Prif Swyddog Gweithredol:“Mae Diwrnod y Gymanwlad yn bwysig iawn i ni, yn enwedig eleni. Y llynedd buom yn dathlu’n rhithiol, ac mae cael y cyfle i ddod â’r digwyddiad yn ‘fyw’ unwaith eto mewn amgylchedd diogel wedi ailadrodd pa mor hanfodol yw ymgysylltu â chymunedau a phobl ifanc ledled y Wlad. Mae ymrwymiad yr athletwyr a’r chwaraeon wedi bod yn rhagorol drwy gyfnod anrhagweladwy iawn, ac mae hyn yn tynnu sylw at sut y bydd Birmingham yr haf hwn yn sicr yn Gemau i’w cofio. Diolch i ysgol gynradd Cefn Fforest, fel llawer o glybiau, ysgolion a chymunedau eraill sydd wedi ein cefnogi – nid yr athletwyr yn unig, ond yr holl staff cymorth a gwirfoddolwyr sy’n gwneud i Dîm Cymru ddigwydd. 136 diwrnod i fynd!”“