Cyhoeddi Llwybr Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 drwy Gymru

Mae Taith Baton Birmingham 2022 ar y ffordd i Gymru!

Cyn Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022 ym mis Gorffennaf eleni, bydd Taith Baton y Frenhines yn teithio drwy Gymru cyn mynd i Loegr ac yn olaf i fyny i Birmingham ar gyfer y Seremoni Agoriadol ar 28 Gorffennaf yn Stadiwm Alexander.

Bydd rhan Cymru yn dechrau yn Ynys Môn ar 29 Mehefin ar ôl dod i mewn o Ogledd Iwerddon, a bydd yn teithio drwy Gymru am bum niwrnod, gan ymweld â threfi, pentrefi a thirnodau allweddol ar draws gogledd, gorllewin a de Cymru.

Lansiwyd Taith Baton y Frenhines gan y Frenhines ar 7 Hydref y llynedd, mewn seremoni ym Mhalas Buckingham Mae’r Baton yn ymweld â phob un o 72 o wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad am 294 diwrnod, gan deithio 140,000 cilometr.

Cynhaliwyd Taith Baton y Frenhines am y tro cyntaf yn 1958 yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd, a bydd y Daith yn cael ei chynnal am yr unfed tro ar bymtheg eleni. Mae Taith Baton y Frenhines yn draddodiad sy’n dathlu, yn cysylltu ac yn cyffroi cymunedau o bob rhan o’r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau.

Cynhaliwyd Taith Baton y Frenhines am y tro cyntaf yn 1958 yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd, a bydd y Daith yn cael ei chynnal am yr unfed tro ar bymtheg eleni. Mae Taith Baton y Frenhines yn draddodiad sy’n dathlu, yn cysylltu ac yn cyffroi cymunedau o bob rhan o’r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’r cynllunio sydd ei angen i drefnu Taith Baton y Frenhines, yma yng Nghymru, yn cymryd misoedd o drafodaethau ac ymweliadau. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gydag arweinwyr digwyddiadau Awdurdodau Lleol i gyflwyno Taith gyffrous, gyda chludwyr y Baton yn adlewyrchu pob cymuned ledled Cymru. Mae’n sicr yn gyfle i ni hyrwyddo’r digwyddiadau a’r prosiectau gwych sy’n digwydd ledled y wlad. Mae llawer o gefnogaeth a brwdfrydedd wedi bod dros Daith Baton y Frenhines yma, a dyma gyfle perffaith i gyffroi ein cefnogwyr yn barod at y gemau, sydd bron o fewn cyrraedd.”

Dywedodd Lisa Hampton, Pennaeth Taith Baton y Frenhines: “Dywedodd Lisa Hampton, Pennaeth Taith Baton y Frenhines: “Mae Taith Baton y Frenhines yn daith ryfeddol sy’n ceisio cysylltu cymunedau o bob rhan o’r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Cymru yw’r gyrchfan olaf ond un ar daith sy’n cynnwys 72 o wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad, a bydd y Baton yn dod â chyfoeth o straeon gydag e gan y rhai a fu’n ei gludo yn y cymunedau y mae wedi ymweld â nhw o’r blaen. Mae’n gyffrous iawn gweld y lleoliadau penodol yn cael eu cyhoeddi. Allwn ni ddim aros i roi sylw i’r prosiectau anhygoel yn ystod pob ymweliad, ac rwy’n gobeithio y bydd trigolion y cymunedau hyn yn edrych ymlaen at weld y Baton ymhen ychydig dros dri mis.”

I gael rhagor o wybodaeth am Daith Baton y Frenhines ac i ddilyn taith y Baton, cliciwch yma

Dilynwch daith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales