Team Wales New Non-Executive Directors Announced

Er mwyn paratoi ar gyfer gemau #B2022, mae Tîm Cymru wedi penodi dau gyfarwyddwr anweithredol newydd, a fydd yn helpu i arwain y sefydliad yn strategol wrth wneud penderfyniadau, gan gefnogi ein hawydd ar y cyd i weld Tîm Cymru'n ffynnu.

Mae aelodau ein bwrdd yn helpu i roi cyfeiriad strategol i'r sefydliad drwy osod polisïau cyffredinol, diffinio nodau, gosod targedau a gwerthuso perfformiad.. Yn ogystal â sicrhau sefydlogrwydd ariannol a diogelu enw da'r sefydliad.

"Roedd y bwrdd wrth eu bodd gyda lefel y diddordeb yng ngheisiadau rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol. Rwy'n falch iawn o groesawu Anna ac Ashton i Fwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru."

"Mae'r ddau ohonyn nhw'n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd gyda nhw o safbwynt athletwr, yn eu gallu proffesiynol a'u profiadau personol. Roeddem ni'n teimlo mai dyma'r amser iawn i ddod ag aelodau newydd i'r bwrdd ochr yn ochr â bwrdd profiad iawn sydd wedi llunio strategaeth sefydledig. Bydd eu hangerdd i yrru chwaraeon ymlaen yng Nghymru yn amhrisiadwy i ni. Mae'n hollbwysig ein bod ni fel bwrdd yn parhau i ddatblygu, arloesi a chreu effaith gadarnhaol ar chwaraeon yng Nghymru, a bydd Anna ac Ashton yn sicr yn dod â dealltwriaeth annibynnol, greadigol ac amrywiol i'r sefydliad." – Helen M Phillips

Dewch i gwrdd â'n hwynebau newydd:

Ashton Hewitt

Ar hyn o bryd mae Ashton yn chwarae rygbi proffesiynol i dîm rhanbarthol Dreigiau Casnewydd, lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf proffesiynol yn 17 oed ar ôl symud ymlaen drwy system yr academi. Ochr yn ochr â'i yrfa rygbi, mae Ashton wedi cwblhau gradd mewn Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid, ac yna Gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Ar ôl cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon cyn ei yrfa rygbi, mae gan Ashton ddiddordeb brwd mewn ystod eang o chwaraeon y mae'n gobeithio eu trosglwyddo fel cyfraniadau i'r Tîm. Mae gan Ashton angerdd dros gydraddoldeb a thegwch, ac mae’n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm Gemau'r Gymanwlad Cymru i lwyddo yng ngemau 2022.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi a chael y cyfle i fod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad gyda Thîm Cymru. Mae'n brofiad newydd i mi, ac rwy'n hynod o gyffrous i ddechrau arni gan gyfrannu'r orau y gallaf i'r tîm ac adeiladu ar waddol y gemau wrth symud ymlaen." – Ashton Hewitt

Anna Stembridge

Mae gan Anna dros 25 mlynedd o brofiad yn cystadlu ac yn gweithio mewn amgylchedd perfformiad uchel, fel cyn-chwaraewraig pêl-rwyd dros Gymru gan gystadlu ddwywaith yng Ngemau’r Gymanwlad a Chwmpan y Byd, ac fel cyn hyfforddwr carfan Lloegr. Gyda'r cefndir hwn, yn ogystal â bod â llawer o swyddi arwain a strategol o fewn sefydliadau elît, mae Anna yn rhoi cipolwg unigryw a dilys ar ofynion chwaraeon perfformiad, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o'r hyn y mae'n ei gymryd i sicrhau llwyddiant ar y lefel hon. Mae Anna yn angerddol am ddatblygu pobl, yn enwedig menywod mewn chwaraeon a chynhwysiant ac amrywiaeth, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â sawl menter yn y maes hwn yn y gorffennol.

“Rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi’n aelod o fwrdd CW Cymru. Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o dîm sydd wedi gwneud gwaith anhygoel dros yr ychydig gylchoedd diwethaf ac sydd â gweledigaeth mor glir ar gyfer y dyfodol. Mae cael fy arwain gan arweinydd fel Helen Phillips a gweithio gyda thîm mor wych yn fraint ac yn hynod gyffrous. Ni allaf aros i weithio gyda'r tîm yn y flwyddyn newydd!” – Anna Stembridge

Dilynwch daith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales