Commonwealth Games Wales pays tribute to Gareth John MBE
Gyda thristwch a chydymdeimlad mae teulu Gemau Gymanwlad Cymru yn talu teyrnged i Is-Lywydd, cyn-Gadeirydd CGW a ffrind, Gareth John MBE, sydd wedi marw.
Bu Gareth yn Gadeirydd Gemau Gymanwlad Cymru am ddau gylch Gemau rhwng 2005 a 2013, gan ddatblygu ac ysbrydoli'r sefydliad a aelodau’r tîm a'i athletwyr.
Ymgorfforodd Gareth werthoedd Gemau'r Gymanwlad, gan hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb trwy ei waith ymroddedig fel Llywydd Chwaraeon Anabledd Cymru.
Yn 2009 dyfarnwyd MBE i Gareth yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, cydnabyddiaeth mor haeddiannol.
Dywedodd Anne Ellis OBE, Llywydd Gemau Gymanwlad Cymru:
“Roedd Gareth yn berson hynod a fu’n allweddol wrth foderneiddio Gemau Gymanwlad Cymru. Heb ei angerdd a'i ysfa am gydraddoldeb mewn chwaraeon, byddai Gemau Gymanwlad Cymru yn edrych yn wahanol iawn i'r llwyddiant y mae heddiw.
Byddwn am byth yn ddiolchgar am y gwaith caled a'r cyfraniad y mae wedi'i wneud i chwaraeon Cymru. Cydymdeimliadau â'i wraig a'i deulu ar yr adeg drist hon."
Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau Gymanwlad Cymru:
“Roedd Gareth John, Cadeirydd Gemau Gymanwlad Cymru (CGW) rhwng 2005 a 2013, yn allweddol wrth drawsnewid i sefydliad athletwr-ganolog.
Arweiniodd CGW i mewn i Gemau Melbourne a daeth â sefydlogrwydd i'r sefydliad ar ôl Melbourne. Roedd bob amser yn rhoi profiad yr athletwr yn gyntaf ac roedd ei rolau fel Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru a Gemau Gymanwlad Cymru yn adlewyrchu'r Gemau lle mae para-chwaraeon wedi'i integreiddio i'r Gemau.
Roedd Gareth bob amser yn bwyllog, yn gefnogol ac yn defnyddio ei ddoethineb a'i brofiad i arwain Gemau Gymanwlad Cymru. Bydd colled fawr ar ei ôl. ”
Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gareth ar yr adeg anodd hon.
Diolch o galon am bopeth, Gareth.