Team Wales name Cath Shearer as Performance General Team Manager for Birmingham 2022

Mae Gemau Gymanwlad Cymru, y corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddewis ac anfon athletwyr elitaidd i gystadlu fel Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi penodi Cath Shearer fel Rheolwr Perfformiad Cyffredinol.

Daw Cath â chyfoeth o brofiad i gefnogi perfformiad elitaidd Tîm Cymru cyn a’g yn ystod y Gemau Gymanwlad nesaf yn Birmingham 2022.

Yn Uwch Seicolegydd Chwaraeon ac Arweinydd Strategol ar gyfer Adeiladu Systemau i Chwaraeon Cymru, mae Cath wedi gweithio fel seicolegydd ers 18 mlynedd ac wedi darparu cefnogaeth seicoleg i dros 20 o chwaraeon. Yn yr amser hwn, mae Cath wedi cael ei ddewis i ddarparu cefnogaeth seicoleg mewn 3 Gemau Paralympaidd a bu’n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol.

Mae Cath wedi bod yn rhan o Dîm Cymru- yn darparu cefnogaeth seicoleg mewn un Gemau'r Gymanwlad Ieuenctid (Pune), 3 Gemau'r Gymanwlad (Melbourne, Delhi a Glasgow), ac roedd yn rhan o dîm cymorth Nofio Cymru yn y gwersyll paratoi ar yr Arfordir Heulwen cyn Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur.

Dywedodd Cath Shearer:

“Rwy’n falch iawn i ymuno â Gemau Gymanwlad Cymru yn y rôl gyffrous a hanfodol newydd hon i Dîm Cymru cyn Gemau nesaf y Gymanwlad.

Y tu ôl i dîm llwyddiannus a’r tabl medalau, mae stori ddyfnach o lwyddiant. Mae’r cyfan yn dibynnu ar sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd, a’r paratoiadau a’r gefnogaeth gywir yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan ein hathletwyr bopeth sydd ei angen arnynt i allu cynhyrchu eu perfformiad gorau.”

Prif bwrpas y rôl newydd yw gyrru a chydlynu cefnogaeth perfformiad i Dîm Cymru cyn ac yn ystod Birmingham 2022. Bydd y Rheolwr Perfformiad Cyffredinol yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Sefydliadau Chwaraeon Cymru, partner Gemau Gymanwlad Cymru, Prifysgol De Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol i godi safonau cymorth mewn gwyddoniaeth, meddygaeth a lles athletwyr.

Daeth Tîm Cymru yn dîm a dorrodd record am ail tro yn olynol yn y Gemau yn Gold Coast Awstralia, yn ôl ym mis Ebrill 2018. Cynhyrchodd y tîm, sy'n cynnwys tua 200 o athletwyr, rai o'u perfformiadau gorau eto, gan ddod â 36 o fedalau adref, gan gynnwys 10 Aur, 12 Arian ac 14 Efydd.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau Gymanwlad Cymru:

“Rydym yn falch iawn i groesawu Cath Shearer i dîm Gemau Gymanwlad Cymru ar gyfer Birmingham 2022. Mae’r rol yn hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth perfformiad o ansawdd uchel i athletwyr Tîm Cymru a staff cymorth yn y cyfnod cyn ac yn ystod y Gemau.

Gyda gwybodaeth Cath o’i gyrfa lwyddiannus a’i phrofiad o gemau lluosog rydym yn hyderus y bydd yn gaffaeliad enfawr i deulu Gemau’r Gymanwlad. ”