Commonwealth Games Wales welcomes partnership with CGI in lead up to Gold Coast 2018
Gydag union ddwy flynedd i’r diwrnod i fynd tan Gemau’r Gymanwlad 2018, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Nicola Phillips yn Chef de Mission ar gyfer Cymru. Daw’r cyhoeddiad yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol a phenderfyniad unfrydol gan Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru.
Bydd Yr Athro Phillips, sy’n ffisiotherapist siartredig â chanddi Gadair Bersonol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, yn gyfrifol am arwain tîm o athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff cefnogol o Gymru i’r 21ain Gemau yn Arfordir Aur Awstralia.
Mae Nicki yn arweinydd profiadol ac yn arbenigwr rhyngwladol ym maes rheoli anafiadau chwaraeon, ac mae wedi gweithio’n helaeth ym maes cefnogi athletwyr mewn digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang. Yn ystod gyrfa hynod lwyddiannus, mae wedi gweithio gyda thimau codi pwysau Cymru a Phrydain, yr undeb rygbi proffesiynol, y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad ymhlith eraill. Mae hi hefyd yn Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol Therapi Chwaraeon Corfforol.
Dywedodd Nicki ei bod “wrth ei bodd” gyda’r newydd: “Rwy’n dal i wenu am y peth! Mae’n gymaint o fraint ac alla i ddim disgwyl i ddechrau ar y gwaith.”
Ychwanegodd: “Mae’n teimlo fel cam naturiol i mi, ac yn uchafbwynt i ddegawdau o ymwneud â Gemau’r Gymanwlad. Rwyf wedi bod yn ymwneud â Gemau’r Gymanwlad Cymru ers tua 30 mlynedd ac wedi teithio gyda Thîm Cymru i nifer o Gemau a hynny mewn sawl rôl wahanol. Trwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi bod yn cefnogi athletwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, felly mae cael fy mhenodi ar gyfer y rôl uchaf un i Dîm Cymru yn fraint o’r mwyaf.
“Mae bod yn rhan o Dîm Cymru yn deimlad hollol wefreiddiol – mae’n rhoi boddhad enfawr i mi helpu athletwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu a gweld athletwyr yn datblygu o gystadlu yn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad i gystadlu yn y prif Gemau.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Nicki gael blas ar rôl Chef de Mission gan iddi arwain y tîm o athletwyr ifanc o Gymru i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa fis Medi diwethaf. Meddai: “Mi ges i’n sicr ddealltwriaeth ddyfnach o rôl Chef de Mission yn sgil y profiad hwnnw. Roedd y Tîm a deithiodd i Samoa yn llawer llai na’r un a fydd yn cystadlu yn yr Arfordir Aur, a oedd yn golygu bod rhaid i mi wisgo sawl het wahanol, ac roedd hynny’n dda iawn ar gyfer dysgu’r gwahanol agweddau ar y gwaith.
“Bydd tîm cefnogol llawer mwy i helpu gyda’r gwaith yn Awstralia. Ond bydd meddu ar y profiad o reoli’r cyfan y Samoa – er bod hynny ar raddfa lai o lawer – o fudd mawr i mi.”
Lansiodd Gemau’r Gymanwlad Cymru y broses ymgeisio ar gyfer y rôl ym mis Chwefror a chafwyd nifer sylweddol o geisiadau gan ‘arweinwyr ysbrydoledig’ o bob math o gefndiroedd.
Wrth longyfarch Nicki ar ei phenodiad, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi mai Nicki fydd y Chef de Mission nesaf dros Gymru. Mae ganddi’r holl nodweddion angenrheidiol yn cynnwys gweledigaeth, angerdd, a’r gallu a’r profiad i arwain yn effeithiol o dan bob math o amgylchiadau. Mae’r hyn y mae wedi ei gyflawni fel Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol Therapi Chwaraeon Corfforol yn enghraifft berffaith o’i chymhwyster a’i chalibr.
“Helpodd Nicki i ddelifro Gemau llwyddiannus iawn i’n hathletwyr ifanc fel Chef de Mission Cymru yn y Gemau Ieuenctid yn Samoa y llynedd. Rydyn ni, fel Bwrdd a staff Gemau’r Gymanwlad Cymru, yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’n gilydd i greu’r llwyfan gorau bosibl i’r Tîm a fydd yn cystadlu yn Gemau’r Arfordir Aur yn 2018.”
Ychwanegodd: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a wnaeth gais am y rôl. Cafwyd nifer fawr o geisidadau gan arweinwyr ysbrydoledig o sawl maes gwahanol ac mae safon y ceisiadau a dderbyniwyd heb os yn adlewyrchiad o ba mor bwysig yw rôl Chef de Mission.”
Cyn cychwyn yn iawn ar y rôl, bydd Nicki yn ymuno â Richard Parks ar ei gyrch diweddaraf. Mae hi’n rhan o’r tîm cefnogol a fydd yn ei helpu wrth iddo geisio bod y cyntaf erioed i roi sampl gwaed a biopsi cyhyrau o gopa Mynydd Everest – a hynny heb unrhyw ocsygen ategol.
Wrth edrych ymlaen at y cyrch, meddai Nicki: “Rwyf bob amser yn hoff o ymateb i her, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y profiad. Yn ffodus, dim ond i’r gwersyll cyntaf y bydda i’n dringo gyda Richard!”
Bydd Nicki yn cychwyn yn ei rôl cyn gynted ag y bydd adref yng Nghymru. Ychwanegodd: “Â hithau’n ddwy flynedd yn union hyd Gemau Awstralia, y brif dasg i ddechrau fydd penodi’r uwch dîm rheoli a fydd yn gweithio gyda mi a Gemau’r Gymanwlad Cymru i baratoi ar gyfer y Gemau. Bydd sefydlu tîm cryf a phrofiadol yn gwbl hanfodol.
“Byddaf hefyd yn gweithio gyda Gemau’r Gymanwlad Cymru ar yr agweddau ymarferol rhwng nawr a’r Gemau – fel sicrhau’r llety a’r amodau gorau bosibl fel y gall ein hathletwyr berfformio hyd eithaf eu gallu.
“Bydd y gwahaniaeth amser a’r pellter daearyddol rhwng Cymru ac Awstralia yn her fawr. Ond byddwn yn sefydlu sianelau cyfathrebu cryfion fel y gallwn rannu gwybodaeth a newyddion da ymhlith y Tîm, a hefyd gyda phobl adref yng Nghymru.
“Rhwng nawr a 2018, mae’n bwysig fod y genedl gyfan y tu ôl i Dîm Cymru. Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru er mwyn sicrhau cefnogaeth pobl o Fôn i Fynwy.”
Brian Davies, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd gyda Chwaraeon Cymru, oedd y Chef de Mission dros Gymru yng Ngemau Glasgow yn 2014. Derbyniodd OBE y llynedd am ei wasanaethau i fyd chwaraeon ar ôl arwain Tîm Cymru i’r Gemau mwyaf llwyddiannus eto i Gymru o ran y nifer o fedalau a enillwyd.
Meddai Brian: “Rwy’n hynod falch gyda’r penodiad a hoffwn ddymuno’r gorau i Nicki yn y rôl. Yn ddi-os, mae’n un o uchafbwyntiau fy ngyrfa i hyd yma ac rwy’n siwr y caiff hithau foddhad mawr o gyflawni’r gofynion y rôl.
“Rwy’n adnabod Nicki ar lefel broffesiynol ers nifer o flynyddoedd ac fe wn ei bod yn unigolyn hynod alluog a phrofiadol a fydd yn cyflawni’r gwaith gydag ymroddiad, brwdfrydedd ac angerdd arbennig.”