Bridgend swimmer selected as flagbearer for Team Wales at Commonwealth Youth Games opening ceremony
Mae’r nofwraig Rebecca Sutton o Ben-y-Bont ar Ogwr wedi cael ei dewis gan Dîm Cymru i chwifio’r faner yn seremoni agoriadol Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas yr wythnos hon.
Gwnaed y cyhoeddiad gan y Chef de Mission, Gerwyn Owen, fore heddiw (ddydd Mawrth 18fed Gorffennaf) cyn y seremoni agoriadol heno.
Cafodd Rebecca ei dewis yn dilyn enwebiadau gan y chwe Chorff Llywodraethu Cenedlaethol sy’n gyfrifol am y campau lle bydd Cymru’n cystadlu yn y Gemau.
Meddai Gerwyn: “Mae Rebecca wedi dangos yn barod ei bod yn athletwraig o fri yn dilyn ennill sawl medal yn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa yn 2015.
“Dangosodd ei photensial pan yn cystadlu dros Dîm Cymru am y tro cyntaf yn 2015 trwy ennill dwy fedal arian yn y gystadleuaeth 400m unigol a’r ras gyfnewid 4 x 100m a medal efydd yn y ras gyfnewid 4 x 200m.
“Perfformiodd yn dda iawn hefyd fel rhan o Dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd i Ieuenctid yn 2015, ac er ei bod yn ifanc iawn o hyd mae hi’n nofwraig hynod o brofiadol.
“Rwy’n siwr y bydd hyn yn ysbrydoli ei chyd-gystadleuwyr yn y Bahamas ac athletwyr ifanc eraill yn ôl yng Nghymru.”
Mae Rebecca, sydd bellach yn 16 oed, yn nofio ers pan oedd hi’n 4 oed ac ymunodd â chlwb nofio Pen-y-Bont ar Ogwr yn 7 oed. Mae hi’n hyfforddi ym mhwll sirol Pen-y-Bont ac yn teithio i hyfforddi ym mhwll 50m Abertawe a Chaerdydd.
Mae Rebecca yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Porthcawl ac yn byw yng Ngogledd Corneli, a gorffennodd ei harholiadau TGAU cyn teithio gyda Thîm Cymru i’r Bahamas. Meddai: “Mae chwifio’r faner dros Gymru yn y seremoni agoriadol yn fraint o’r mwyaf.
“Rwy’n hynod falch o gynrhychioli Cymru yn Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad am yr ail dro, ac mae cael y cyfle i arwain y Tîm yn y seremoni agoriadol yn eisin ar y gacen!”
Wrth longyfarch Rebecca, meddai Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru Helen Phillips: “Mae Rebecca eisoes wedi dangos fod ganddi dalent arbennig iawn a bod ganddi’r potensial i ennill medalau mewn cystadlaethau ieuenctid a Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol.
“Mae’r Gemau Ieuenctid yn gyfle ardderchog i’n hathletwyr ifanc gael profiad o gystadlu mewn digwyddiadau aml-chwaraeon sylweddol, a bydd hynny yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i fod yn bencampwyr Cymreig yn y dyfodol.
“Dymunwn bob lwc i Rebecca, a gweddill Tîm Cymru, yn y Gemau Ieuenctid yr wythnos hon. Does dim amheuaeth y bydd yn brofiad gwerthfawr iawn iddyn nhw, yn cychwyn gyda’r seremoni agoriadol heno.”
Mae Rebecca yn un o 38 o athletwyr ifanc sy’n cynrychioli Cymru yn y Gemau Ieuenctid yn y Bahamas. Cyn i’r Gemau ddod i ben ar y 23ain o Orffennaf, bydd Tîm Cymru yn cystadlu mewn chwe champ – nofio, athletau, bocsio, jiwdo, tenis a rygbi 7 bob ochr menywod.