13 medals for Team Wales at Bahamas Commonwealth Youth Games
Heddiw, bydd Tîm Cymru yn dychwelyd o Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas gyda chyfanswm o 13 medal yn cynnwys dwy aur, chwe arian a phum efydd. Gorffennodd Cymru yn y degfed lle ar y tabl medalau yn dilyn chwe diwrnod o gystadlu.
Yn ystod y Gemau, bu 38 o athletwyr ifanc o Gymru yn cystadlu mewn chwe champ, gan ddelifro perfformiadau ardderchog, ennill medalau a thori sawl record ieuenctid Cymru a Phrydain.
Enillodd sgwad rygbi saith bob ochr menywod Cymru y fedal gyntaf erioed i Dîm Cymru mewn camp tîm yng Ngemau’r Gymanwlad. Collodd Cymru yn y gêm gyntaf yn erbyn Canada, ond aeth y merched ymlaen i ennill o 58-0 yn erbyn Bermiwda a 53-0 yn erbyn Trinidad a Thobago. Ar ôl colli o 0-26 yn erbyn Awstralia yn y bedwaredd gêm, enillwyd y gêm olaf yn erbyn Fiji o 2607 i sicrhau’r fedal efydd.
Ar y cae athletau, enillodd Sarah Omergie fedal arian yn y gystadleuaeth taflu pwysau gan osod record Brydeinig newydd o dan 18 o 16.74m. Cafwyd medal arian arall gan James Tomlinson gyda’r ddisgen.
Enillwyd pedair medal yn y pwll nofio, gyda Lewis Fraser yn cipio’r fedal aur gyntaf i Gymru yn y gystadleuaeth pili pala 100m ac efydd yn y pili pala 50m. Cafodd Medi Harris ddwy fedal hefyd – efydd yn y nofio cefn 200m ac arian yn y nofio cefn 50m lle torrodd y record Gymreig a osodwyd gan Georgia Davies yn 2006.
Cipiwyd pedair medal hefyd yn y bocsio, lle daeth Cymru yn gydradd ail gydag Awstralia ar y tabl medalau ar gyfer y gamp. Ar ddiwrnod olaf y Gemau, enillodd Sammy Lee (81kg) yr ail fedal aur i Dîm Cymru, tra cafodd ei gyd-focswyr James Probert (46-49kg) a Jacob Lovell (64kg) fedal aur yr un, gyda Rhys Edwards (60kg) yn sicrhau’r fedal efydd ar ôl colli o drwch blewyn yn y rownd gyn derfynol.
Enillodd James Story fedal arian yn y gystadleuaeth tenis sengl ac efydd yn y tenis dwbl cymysg gyda Morgan Cross. Enillodd ei frawd, Matt, fedal yn y tenis dwbl i ddynion yng Ngemau Ieuenctid Samoa yn 2015.
Gwelwyd Ffion Robinson (U48KG), Sam Ashton (U73KG) a Callum Bennett (U60KG) yn cystadlu yn y jiwdo am y tro cyntaf yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ni enillwyd unrhyw fedalau yn y gamp honno, ond daeth Callum yn agos iawn at gipio’r efydd, ac fe berfformiodd y tri ohonyn nhw’n ardderchog gan ddangos cryn addewid i’r dyfodol.
Meddai’r Chef de Mission Gerwyn Owen, a oedd yn arwain Tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad eleni: “Rydyn ni’n arbennig o falch o’n hathletwyr ifanc am gyflawni mor ardderchog yn y Gemau. Maen nhw wedi perfformio’n wych yn eu campau, ond maen nhw hefyd wedi profi eu hunain y tu hwnt i’r cystadlu yn lysgenhadon anhygoel i Gymru.
“Mae gwerthoedd Tîm Cymru – balchder, angerdd, undod a ffydd – wedi cael eu hymgorffori yn ymddygiad a pherfformiad yr athletwyr dros yr wythnos ddiwethaf. Maen nhw wedi cydweithio a chefnogi eu gilydd ac wedi dangos parch a chyfeillgarwch at gystadleuwyr o wledydd eraill y Gymanwlad.
“Mae cynrychioli Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn brofiad amhrisiadwy i’r athletwyr wrth iddyn nhw anelu at yrfaoedd ym myd chwaraeon. Rydyn ni wedi gweld talent a photensial aruthrol ar draws y campau ac mae’n argoeli’n hynod addawol ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn y dyfodol.
“Llongyfarchiadau i’r athletwyr, eu hyfforddwyr a’r cyrff llywodraethu, yn ogystal a’r holl gefnogwyr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Tîm Cymru.”