Team Wales gymnasts for GC2018 announced
Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru a Gymnasteg Cymru yn hynod falch o gyhoeddi fod tîm o
13 o gymnastwyr wedi cael eu dewis i gystadlu dros eu cenedl yng Ngemau’r Gymanwlad
2018, a hynny mewn gymnasteg rythmig a gymnasteg artistig (merched a dynion).
Yn paratoi i deithio i Awstralia i gystadlu mewn gymnasteg rythmig mae Laura Halford, Gemma Frizelle ac Abigail Hanford.
Y dynion a fydd yn cystadlu mewn gymnasteg artistig yw Jac Davies, Iwan Mepham, Clinton Purnell, Josh Cook a Benjamin Eyre.
Yn cynrychioli Tîm Cymru mewn gymnasteg artistig i ferched mae Maisie Methuen, Emily Thomas, Latalia Bevan, Jolie Ruckley a Holly Jones.
Yr aelod ieuengaf o dîm gymnasteg Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 yw Abilgail Hanford o Lanelli a Jolie Ruckley o Gaerdydd sydd ill dwy yn bymtheg oed. Eleni yw’r tro cyntaf iddyn nhw gystadlu gyda’r garfan hŷn.
Meddai Helen Phillips, cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Hoffwn longyfarch y 13 o gymnastwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur. Maen nhw wedi gweithio’n arbennig o galed, gyda chefnogaeth gan eu clybiau, eu hyfforddwyr personol, a’r corff llywodraethu cenedlaethol i ddod mor bell â hyn. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw pan fyddan nhw’n cystadlu ymhen ychydig wythnosau.
“Gyda dim ond deugain o ddyddiau i fynd tan y seremoni agoriadol, mae’r cyhoeddiad heddiw yn cwblhau ein tîm o athletwyr a fydd yn cystadlu mewn campau unigol, ac edrychwn ymlaen at gadarnhau aelodau’r sgwadiau ar gyfer y chwaraeon tîm yn fuan iawn.”
Meddai Jo Coombs, Pennaeth Perfformiad a Rhagoriaeth gyda Gymnasteg Cymru: “Rydyn ni’n falch tu hwnt fod cymaint o’n gymnastwyr wedi eu dewis i gystadlu yn Awstralia. Mae’r cyhoeddiad hwn yn benllanw i bedair blynedd o waith caled ac ymroddiad gan bob un ohonyn nhw.
Ychwanegodd: “Roedd Gemau Glasgow yn 2014 yn foment arbennig iawn i ni yn Gymnasteg Cymru, gan i ni ennill deg medal yno – ein perfformiad gorau erioed yng Ngemau’r Gymanwlad. Hefyd, mae’r ffaith fod bron iawn bob un o’r gymnastwyr benywaidd sydd wedi eu dewis yn deillio o’r rhaglen sgwad elitaidd yn profi llwyddiant y rhaglen honno. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd ein gymnastwyr yn ei gyflawni yng Ngemau 2018. Pob llwyddiant iddyn nhw i gyd.”
Roedd Laura Hanford, Jac Davies, Iwan Mepham a Clinton Purnell yn rhan o dîm gymnasteg Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014. Enillodd Laura fedal arian yn y gystadleuaeth tîm ac efydd yn y gystadleuaeth unigol yn Glasgow.