Gethin Jones joins Team Wales on Gold Coast as Official Attaché for Commonwealth Games
Bydd y cyflwynydd teledu Gethin
Jones yn glanio ar Arfordir Aur, Awstralia heddiw ar ôl derbyn gwahoddiad i
ymuno â Thîm Cymru fel ‘Attaché’ swyddogol yn ystod Gemau’r Gymanwlad 2018.
Bydd Gethin, sy’n Gymro balch, yn treulio 11 diwrnod ar yr Arfordir Aur yn cefnogi swyddogion, gwirfoddolwyr ac athletwyr Cymru, gyda’r gobaith o sicrhau’r llwyddiant mwyaf erioed i Dîm Cymru mewn Gemau dramor.
Pwrpas rôl yr Attaché swyddogol yw ymgysylltu gyda chefnogwyr a phartneriaid Tîm Cymru yn ystod y Gemau, a helpu i greu cynnwrf a diddordeb yn y Tîm trwy’r cyfryngau a sianelau cymdeithasol.
Ochr yn ochr â Llysgenhadon Tîm Cymru – Becky James, Christian Malcolm ac Elin Haf Davies – a’r Capten Non Stanford, bydd Gethin yn chwifio’r faner dros Gymru, yn codi proffil chwaraeon Cymru’n rhyngwladol ac yn ysbrydoli cefnogwyr Tîm Cymru yng Nghymru a thu hwnt.
Fel cyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac anturiaethwr brwd, mae Gethin yn cyfuno cariad am chwaraeon gydag angerdd gwirioneddol dros Gymru. Meddai: “Mae’n fraint cymryd y rôl arbennig yma gyda thîm Cymru. Mae na awyrgylch gwych o amgylch Gemau’r Gymanwlad wrth i ni gychwyn ar y daith i’r Arfordir Aur.
“Allai fod ddim balchach i sefyll drws nesaf i Non, Becky a Christian yn cefnogi ein athletwyr anhygoel. Rydyn ni’n genedl falch, a does gen i ddim amheuaeth y bydd pawb adre’n aros ar ddihun i wylio’r campau i gyd!”
Meddai Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips, sydd eisoes yn Awstralia yn paratoi ar gyfer y Gemau’r wythnos nesaf: “Rydyn ni’n falch iawn fod Gethin wedi derbyn ein gwahoddiad i fod yn Attaché Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Arfordir Aur ac edrychwn ymlaen at ei groesawu yma.
“Bydd yn dod â dimensiwn gwahanol i’r tîm gan dynnu sylw at yr athletwyr a’r straeon am sut y daethant yn rhan o Dîm Cymru. Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl gartref yn ogystal â’r tîm sydd yn Awstralia a bydd Gethin yn ein helpu i wneud hynny.”
Meddai Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE: “Mae ein Chef de Mission a gweddill y ‘tîm tu ôl i’r tîm’ wedi gweithio’n ddiflino i baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur. Gyda dim ond wythnos i fynd, mae’r paratoadau olaf yn cael eu gwneud ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod gan ein athletwyr y cyfle gorau bosib i berfformio hyd orau eu gallu.
“Bydd cael Gethin gyda ni yn Awstralia yn hwb mawr ac yn ein helpu i gynnal brwdfrydedd, cyffro a diddordeb trwy gydol y Gemau. Diolch enfawr iddo ef – ac i’n Llysgenhadon eraill a’n holl gefnogwyr – am fod mor barod i gefnogi ein athletwyr.”
Bydd y Gemau’n cychwyn gyda’r seremoni agoriadol ar y 4ydd o Ebrill gyda 11 diwrnod o gystadlu i ddilyn, a’r cyfan yn dod i ben ar y 15fed Ebrill.