GC2018: Day 7 Highlights
GILLY A JULIE YN ENNILL MEDAL EFYDD YN Y BOWLIO LAWNT
Y tîm parau cymysg B2/BN3 yn ennill 23ain medal Tîm Cymru ar yr Arfordir Aur
Y bocsiwr Rosie Eccles yn sicr o fedal arian o leiaf
McDonagh a Lee hefyd yn sicr o fedal efydd ar ôl ennill yn y rownd go-gynderfynol
Halford yn cymhwyso ar gyfer pedair ffeinal yn y Gymnasteg Rhythmig
Lle yn y rownd go-gynderfynol i’r tîm dyblau yn y sboncen
Y timau pêl rwyd a hoci’r merched yn colli ar ôl gemau agos iawn
Mae Tîm
Cymru’n awr wedi ennill 23 o fedalau (7 Aur, 8 Arian, 8 Efydd) ac yn wythfed yn
y tabl medalau, gyda sicrwydd o o leiaf 3 medal arall.
BOWLIO LAWNT
Roedd hi’n ddiwrnod gwych i Gymru yn y bowlio lawnt, gyda’r tîm parau B2/B3 Cymysg yn hawlio Efydd mewn buddugoliaeth arbennig o 13-12 yn erbyn yr Alban yng Nghanolfan Bowlio Broadbeach.
Roedd Julie Thomas, John Wilson, Gilbert Miles a John Byron yn wynebu Irene Edgar, David Thomas, Robert Barr a Sarah-Jane Ewing yn y gêm 16 pen.
Roedd y gêm yn agos iawn, ond llwyddodd cynnig olaf Miles yn y gêm benderfynu i sicrhau’r fedal.
“Rwy’n cofio Robert Weale yn dweud ei fod yn teimlo’n hyderus pan enillodd yn Delhi ac roeddwn innau’n teimlo’n hyderus, ddim yn nerfus o gwbl. Roedd fel petae yna rywbeth yn yr aer yn ein gwthio i ennill,” meddai Miles, sy’m 72 oed ac yr aelod hynaf o Dîm Cymru
Dywedodd Thomas fod hawlio’r fedal efydd yn dad-wneud rhywfaint o’r siom ar ôl y canlyniad yn erbyn De Affrica yn y rownd derfynol.
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus i dîm y dynion – sef Ross Owen, Stephen Harris, Marc Wyatt a Jonathan Tomlinson. Enillodd y pedwarawd am y trydydd tro yn olynol gyda buddugoliaeth o 14 – 4 dros Ynysoedd Cook yng ngêm y bedwaredd rownd. Byddan nhw’n wynebu Seland Newydd yn y bumed rownd yfory, ddydd Iau, Ebrill 12.
Dechreuodd tîm parau’r merched – Laura Daniels a Jessica Sims – y diwrnod yn dda gyda buddugoliaeth o 18-13 dros Ogledd Iwerddon yn y bedwaredd rownd, cyn colli yn erbyn De Affrica 23-17 yn y bumed.
Aeth triawd y merched, Emma Woodcock, Caroline Taylor ac Anwen Butten ben-ben â Seland Newydd, cyn i’r trio Traws-Tasmaidd hawlio buddugoliaeth o 19-15. Collodd y Cymry hefyd o 16-11 yn erbyn Lloegr yn y rownd go-gynderfynol yn nes ymlaen yn y dydd.
BOCSIO
Sicrhaodd bocswyr Cymru dair medal yn Stiwdios Oxenford nos Fercher.
Mae Rosie Eccles yn awr yn sicr o fedal arian o leiaf ar ôl ennill buddugoliaeth fwyaf ei gyrfa yn erbyn y ffefryn Kaye Scott.
Enillodd Eccles, sy’n byw ym Mhont-y-pŵl, yn dilyn dyfarniad hollt o 4-1 yn ei rownd gynderfynol a bydd yn wynebu Sandy Ryan o Loegr nos Sadwrn.
“Rwy’n hollol ecstatig, dyna’r oeddwn i’n anelu amdano,” meddai hi wedyn.
“Roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi berfformio’n gryf heddiw. Doedd ennill y rowndiau ddim yn ddigon. Roedd angen i mi ennill y rowndiau a mwy.
“Mae gen i dîm anhygoel, hyfforddwr anhygoel. Mae gennym gynllun ar gyfer popeth ac mi aeth popeth yn ôl y bwriad heddiw felly rwy’n hapus iawn.”
Mae Rosie, sy’n fyfyrwraig MSc Seicoleg Chwaraeon llawn amser, bellach wedi sicrhau medal arian, o leiaf, ond mae wedi gosod ei golygon ar y wobr fwyaf y penwythnos hwn: “Rydyn ni’n mynd y fedal aur ar y 14eg ac alla i ddim disgwyl.”
Tro Mickey McDonagh oedd hi nesaf nesaf, ac roedd yn erbyn Thadius Katua o Papua New Guinea rownd go-gynderfynol dosbarth 60kg y dynion.
Enillodd Mickey, sydd wedi ennill teitl Pencampwr Cymru wyth o weithiau, gyda dyfarniad unfrydol ac mae’n awr drwodd i’r rownd gynderfynol ddydd Gwener.
Bydd yn wynebu Harry Garside o Awstralia ac mae’n sicr o fedal efydd o leiaf.
“Roedd y frwydr yn teimlo’n eithaf cyfforddus,” meddai.
“Roedd y dorf yn fy erbyn hefyd. Roedden nhw i gyd ar ei ochr ef. I fod yn onest mae hynny’n help. Mae’n gwneud i mi frwydro’n galetach.”
Felly dyw’r syniad o ymladd o torf gartref mewn dau ddiwrnod ddim yn ei ddychryn: “Rwy’n credu y bydd yn dod â’r gorau allan ohona i. Rwy’n gwybod y gallaf guro’r frwydr.”
Mae Sammy Lee hefyd yn sicr o fedal efydd ar ôl cau’r noson yn erbyn Reggenni Regg o Uganda yn ei rownd go-gynderfynol dosbarth 81kg y dynion.
Doedd y gwrthwynebydd o Affrica ddim yn un hawdd ei drechu ond daliodd Lee ati a sicrhau dyfarniad hollt o 3-1: “Roedd fy nghornel yn dweud wrthyf ddyrnu’n syth tuag ato. Roedd yn athletwr tal.”
Ac fel y ddau arall, mae ganddo uchelgais glir ar gyfer y Gemau. “Rwy’n anelu am yr aur,” meddai.
GYMNASTEG
Bydd Laura Halford yn cystadlu am fedal mewn pedair rownd derfynol dros y ddau ddiwrnod nesaf ar ôl perfformio’n ardderchog yn y rhagbrofion ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuath gymnasteg rythmig ar yr Arfordir Aur.
Enillodd Halford, sy’n 21 mlwydd oed, fedal arian a dwy fedal efydd yn Glasgow bedair blynedd yn ôl ac erbyn hyn mae ganddi’r cyfle i ychwanegu mwy at ei chasgliad.
Yfory, bydd hi’n cystadlu yn y rownd derfynol gyffredinol i unigolion, cyn rowndiau terfynol y gymnasteg cyfarpar gyda’r cylch, pêl a rhuban ddydd Gwener.
Mae Gemma Frizelle hefyd drwodd i rownd derfynol y cylch. Cymhwysodd yn 6ed gyda sgôr o 13.400.
Yn rownd derfynol y timau, gorffennodd Halford, Frizelle ac Abigail Hanford yn bumed o flaen Lloegr, gyda Cyprus yn ennill y fedal aur.
SBONCEN
Mae wedi bod yn ddiwrnod cymysg i’r dyblau yn y sboncen.
Mae Joel Makin a Peter Creed drwodd i 16 olaf dyblau’r dynion er gwaethaf colli o 2-1 yn erbyn India. Llwyddodd y ddau Gymro i ddod yn ôl o 10-3 i 10-10 cyn colli’r pwynt olaf.
Roedd yn stori debyg yn hanes Tesni Evans a Deon Saffery – colli ddaru nhwythau yn erbyn India, o 2-1. Rhoddodd hynny bwysau arnyn nhw yn eu hail gêm yn erbyn Pakistan gyda’r nos – byddai’n rhaid iddyn nhw ennill honno er mwyn cyrraedd y rownd go-gynderfynol.
Ond doedd yr her ddim yn drech ag Evans a Saffery a enillodd yn hawdd o 11-3 ac 11-5 i gyrraedd y rownd go-gynderfynol.
Roedd hi’n noson lwyddiannus i’r tîm dyblau cymysg wrth i Tesni Evans a Peter Creed ennill yn erbyn Ynysoedd Cayman o 2-0. Gorffennodd y pâr ar frig eu grŵp i sicrhau lle yn y rownd go-gynderfynol.
SAETHU
Ar ôl llwyddiant ysgubol yn y saethu ddoe, y tîm reiffl calibr llawn oedd yr unig gynrychiolaeth o Gymru yng nghanolfan saethu Belmont heddiw. Cychwynnodd Chris Watson a Gaz Morris, ynghyd â’u hyfforddwr Martin Watkins, y diwrnod cyntaf o 3 yng nghystadlaethau unigol Gwobr y Frenhines.
Saethodd y ddau ohonyn nhw yn gryf unwaith, ond ddim mor gryf y tro arall, gan eu gadael gyda 103 o bwyntiau allan o 105. Mae ganddyn nhw’n dal i fod gyfle gwirioneddol o gipio medal, gyda 150 yn fwy o bwyntiau i’w hennill ar ddeuddydd nesaf y cystadlu. Mae gan Gaz gyfrif ‘V Bull’ uwch sy’n golygu y gallai rancio’n uwch na chystadleuwyr eraill os byddan nhw’n gydradd o ran sgôr, sy’n sefyllfa gyffredin yng nghystadleuaeth Gwobr y Frenhines.
TENIS BWRDD
Enillodd Joshua Stacey senglau grŵp 1 TT6-10 i dîm tennis bwrdd Cymru yn Stiwdios Oxenford.
Curodd Stacey, a enillodd Bencampwriaeth Agored Para Gwlad yn 2017 yn erbyn Ian Kent o Ganada o 3 – 0, gan ennill o gryn dipyn ym mhob un o’r tair gêm (Gêm 1: 11 – 8, Gêm 2: 11 – 6, Gêm 3: 11 – 7). Bydd Stacey’n awr yn wynebu Mohammad Azwar Bakar o Falaysia yfory mewn gêm y mae’n rhaid iddo’i hennill.
Enillodd pencampwr senglau’r cenhedloedd cartref, Chloe Thomas a’r pencampwr tennis bwrdd cenedlaethol, Charlotte Carey yn y rownd o 32 yn senglau’r merched. Roedd Thomas, a enillodd ei dwy gêm gyntaf yn gyfforddus, yn wynebu Tracy Feng o Awstralia ond collodd o 4 – 0. Rhoddodd Carey frwydr galed yn erbyn Ying Ho o Falaysia mewn gêm o chwech, ond collodd yn y diwedd o 4 – 2.
Yn y cyfamser, mae aelod ieuengaf Tîm Cymru, Anna Hursey, a fu’n cystadlu am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad a hithau’n ddim ond 11 oed, wedi bod yn siarad am y profiad.
Y profiad o fod yn y Gemau am y tro cyntaf:
“Mae wedi bod yn dda iawn, iawn. Mae wedi bod yn bositif iawn. Mae’n brofiad mor werthfawr bod yma yn chwarae yn erbyn gwahanol chwaraewyr.
“Mae’r pentref yn neis iawn ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd.”
Cystadlu ar yr Arfordir Aur:
“Mae wedi bod yn brofiad grêt chwarae o flaen torf.
“Rwyf wedi mwynhau chwarae gyda Charlotte [Carey] achos dydw i erioed wedi chwarae gyda rhywun sy’n llaw chwith – roedd yn rhaid i mi ofyn iddi lle i sefyll!
“Roedd ’na berthynas dda rhyngon ni ac fe ddaru ni chwarae’n dda iawn.”
Y seremoni agoriadol yn Stadiwm Carrara:
“Roeddwn i wedi dychmygu y byddai’n fawr iawn, ond allwn i ddim hyd yn oed weld yr holl bobl. Roedden nhw’n edrych fel dotiau bach felly mi smaliais mai tedis oedden nhw!”
Llwyddo i gyrraedd y Gemau ac ennill 3 o gemau a hithau’n ddim ond 11 oed:
“I fi, mae’n normal, ond i bobl eraill dydw i ’mond yn 11. Rwy’n ceisio meddwl mod i’n hŷn nag ydw i yma. Ers i mi gyrraedd, rwy wedi bod eisiau ennill, ac mae gen i hyd yn oed yn fwy o eisiau ennill erbyn hyn.”
Dal i fyny â gwaith ysgol tra yn Awstralia:
“Rwy wedi gwneud fy ngwaith Almaeneg ond dydw i ddim wedi gwneud y gwaith hanes eto gan nad ydw i’n ei ddeall yn iawn! Mi fydd rhaid i mi fynd yn ôl a gofyn i’r athro am help.”
HOCI
Dangosodd tîm hoci merched Cymru fwy o brawf o’u cynnydd wrth iddynt orffen eu gemau grŵp yng Ngemau’r Gymanwlad gyda chystadleuaeth glos yn erbyn Malaysia.
Buddugoliaeth fain o 1-0 oedd hi i Falaysia yng Nghanolfan Hoci’r Arfordir Aur.
Roedd y Cymry yn ymosod yn gryf y chwarter yn y chwarter cyntaf, gyda Sarah Jones a Eloise Laity ill dwy yn gwneud ymgais dda am gôl.
Parhaodd y momentwm cadarnhaol yn yr ail chwarter, gyda Jones a Phoebe Richards yn ceisio sgorio. Ond arafodd y gêm wrth i Falaysia ennill sawl ergyd gosb o’r gornel. Ar y 23ain munud, llwyddodd Hanis Onn i sgorio’r gôl a fyddai’n gôl fuddugol i Falaysia.
Treuliodd Cymru’r rhan fwyaf o’r trydydd chwarter yn ymosod yn hanner Malaysia, gyda Richards taro dwy ergyd tua’r gôl a chynnig agos gan Sophie Clayton hefyd. Ond Malaysia a enillodd y dydd yn y pendraw.
Bydd Cymru’n awr yn chwarae’n erbyn Ghana am y nawfed safle.
PÊL RWYD
Cymru 53 – 68 Malawi
Roedd Cymru’n awyddus i adennill balchder wrth wynebu Queens Malawi yn rownd derfynol Pwll B. Gyda Malawi angen swing o 63-pwynt i gael lle yn y rownd gynderfynol, roedd ar Gymru angen ennill o 27 gôl er mwyn peidio â dod ar waelod y grŵp.
Roedd yn ddechrau gwych i Gymru, gyda’r amddiffyniad yn rhoi Malawi o dan bob math o bwysau. Fodd bynnag, cafodd rhai cyfleoedd eu colli gan ganiatáu i’r genedl Affricanaidd achub y blaen. Serch hynny, roedd Cymru’n hyderus ar ganol y cwrt a llwyddodd Kyra Jones i wneud ataliad er mwyn cadw’r sgoriau’n agos ar y chwarter.
Parhaodd Cymru i berfformio’n gadarn yn yr ail chwarter ond buan y sgoriodd Malawi, sy’n chweched yn y byd, wyth gôl. Ar y pwynt hwn, daeth Sarah Llewelyn ymlaen yn lle Cara Lea Moseley a oedd wedi’i hanafu. Gwnaeth Llewelyn effaith ar unwaith a sgoriodd gôl hyderus o gryn bellter.
Y cyfnod olaf oedd y mwyaf rhwystredig i Gymru wrth i Falawi fynd ati i orffen yn gryf. Er i ganran saethu Cymru ddringo dros 80%, doedd yr amddiffyniad ddim yn ddigon effeithiol a rhoddwyd cyfleoedd i Malawi saethu.
Roedd yn berfformiad gwell i Gymru, ar ôl y grasfa gan Uganda ddoe. Er gwaetha’r ffaith nad ddaru Cymru ennill ym Mhwll B, cystadlodd y tîm yn bositif ac yn dipyn cryfach na’r garfan a ddychwelodd o ragbrofion Cwpan y Byd ym Mis Ionawr.
“Roedden ni’n teimlo’n fwy cartrefol heno,” meddai’r capten Suzy Drane. “Rydyn ni’n falch o fod wedi perfformio’n well heddia ond mae gennym ni fwy i’w roi ar y cwrt yfory.”
Bydd Cymru’n chwarae’n erbyn Fiji o Bwll A am 00.02am (amser y DU) yfory i benderfynu ar yr 11eg/12fed safle. Bydd hynny’n gyfle i ennill buddugoliaeth a chael hwb bach i’w morâl cyn diwedd y Gemau.
ATHLETAU
Gwnaeth Rebecca Chapman ei hymddangosiad cyntaf i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn rhagbrawf naid hir y merched ddydd Mercher.
Roedd gan Chapman 3 naid i geisio ennill y marc cymhwyso awtomatig o 6.60m neu i gael ei hun yn y 12 safle uchaf. Dechreuodd yn gryd iawn yn y rownd gyntaf, gan neidio 5.94m ac yna 6.02m yn yr ail rownd. Dim ond 4.42m a neidiodd ar ei thrydedd ymgais, a’i hymgais olaf, a gorffennodd yn y 15fed safle. Serch hynny, gall Rebacca, sy’n ddeilydd record Cymru, fod yn falch iawn o fod wedi cyrraedd Gemau’r Gymanwlad dros Gymru, a bydd wedi rhoi profiad amhrisiadwy iddi wrth symud ymlaen tuag at bencampwriaethau eraill yn y dyfodol.
Am amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Iau 12fed Ebrill,
ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm