GC2018: Day 6 Highlights

AUR I’R SAETHWR DAVID PHELPS WRTH I GYFANSWM MEDALAU TÎM CYMRU GYRRAEDD 22

Anrheg penblwydd i Phelps wrth iddo ennill y gystadleuaeth reiffl tra’n gorwedd 50m, ddeuddeng mlynedd ers y tro diwethaf

Arian i Morris a Watson yng Ngwobr y Frenhines i barau

Davies, Jervis a thîm cyfnewid IM y merched yn hawlio medalau ar noson olaf y nofio

Melissa Courtney yn ennill y fedal efydd yn y ras 1500m

Cymru’n 7fed yn y tabl medalau ar ddiwedd y chweched diwrnod (7 Aur, 8 Arian, a 7 Efydd)

Hefyd heddiw:

Tîm hoci’r dynion yn herio un o ffefrynnau’r twrnamaint i’r eithaf

Anna Hursey’n creu argraff gyda’i pherfformiadau olaf

Y tîm dyblau yn cael cychwyn cadarn yn y sboncen

Salmon yn cipio tair buddugoliaeth yn y bowlio unigol


SAETHU

Ymunodd y saethwr David Phelps â rhestr enillwyr Tîm Cymru ar chweched diwrnod Gemau’r Gymanwlad, wrth iddo hawlio buddugoliaeth a’r fedal aur yng nghystadleuaeth reiffl tra’n gorwedd 50m y dynion.

Dathlodd Phelps, o Gaerdydd, ei ben-blwydd yn 41 oed mewn steil wrth iddo adennill y teitl a enillodd 12 mlynedd yn flaenorol ym Melbourne.

Manteisiodd yn llawn ar ei brofiad i gymhwyso ar gyfer y rownd derfynol, ochr yn ochr â nifer o bencampwyr eraill y Gymanwlad, a daeth i’r brig gyda sgôr o 248.8 gan  drechu Neil Stirton o’r Alban.

“Alla i ddim disgrifio’r teimlad,” meddai Phelps wedyn. “Ennill y fedal gyntaf (yn Melbourne 2006) ac yna ennill ail fedal. Dwi’n methu’n lân â chredu’r peth. Alla i ddim dod o hyd i eiriau. Dyma’r teimlad gorau bosibl.

“Mae fy ffrindiau a fy nheulu wedi teithio hanner ffordd o gwmpas y byd i ddod i fy ngwylio’n cystadlu rhywbeth iddyn nhw ei ddathlu.

“Mae hwn yn un o’r pen-blwyddi gorau erioed. Dwi ar ben fy nigon. Nes i erioed ddychmygu’r peth. Cyrraedd y ffeinal oedd fy nod, ond mae hyn yn gwbl anghredadwy!”

Yn yr un gystadleuaeth, roedd Mike Bamsey, yn cystadlu lai na 48 awr ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf, a chafodd drafferth sgorio pwyntiau uchel yn erbyn rhai o bencampwyr y byd a’r Awstraliaid.

Yn gynharach, parhaodd Gaz Morris a Chris Watson â’u ffurf ardderchog yng Nghystadleuaeth y Frenhines i barau, a hynny er gwaethaf gwyntoedd cryfion. Roedd llawer o dimau yn cael trafferth gyda’r amodau, ond fe llwyddodd y ddeuawd o Gymru i gipio’r fedal arian. Roedd hyn yn brawf o’u cynnydd yn ddiweddar, ar ôl gorffen y 5ed yn Glasgow, a bydd yn rhoi hyder iddyn nhw wrth gystadlu’n unigol yfory.

NOFIO

Enillodd Daniel Jervis arian yn y ras 1500m dull rhydd, ac enillodd Georgia Davies efydd yn y ras 50m dull cefn a’r ras gyfnewid 4x100m ar noson olaf y cystadlu yn y nofio ar yr Arfordir Aur.

Yn sgil perfformiad gwych gan Jervis, llwyddodd i uwchraddio’r fedal efydd a enillodd yn Glasgow. Gorffennodd dair eiliad yn gynt na’i orau personol, y tu ôl i Jack McLoughlin o Awstralia a enillodd y fedal aur i ychwanegu at y fedal arian a enilloedd yn y ras 400m dull rhydd.

Enillodd Davies efydd yn rownd derfynol 50m dull cefn y merched. Roedd y nofwraig 27 mlwydd oed yn amddiffyn ei theitl, a llwyddodd i gael yr amser cyflymaf yn y rhagbrofion. Ond cafodd ei churo o fewn trwch blewyn ar ddiwedd y ras. Dyma’r drydedd fedal yn olynol i Davies ei hennill yn y gystadleuaeth hon yng Ngemau’r Gymanwlad.

Enillodd tîm cyfnewid 4x100m Cymru – Davies, Chloe Tutton, Alys Thomas a Kathryn Greenslade – y fedal efydd wrth iddynt guro’r record genedlaethol o bum eiliad.

Gorffennodd Xavier Castelli yn wythfed yn rownd derfynol y ras 200m IM i ddynion a methodd Ellena Jones â chymhwyso ar gyfer rownd derfynol y ras 400m dull rhydd i ferched – ras y penderfynodd Jazz Carlin beidio â chystadlu ynddi.

Mae hyn yn golygu bod y garfan nofio yn gadael yr Arfordir Aur gyda 5 medal – 1 aur, 1 arian a 3 efydd.

ATHLETAU

Enillodd Melissa Courtney efydd yn rownd derfynol ras 1500m y merched, pedwerydd medal y tîm athletau hyd yma.

Ar ôl cychwyn araf, arhosodd Melissa yn ddigynnwrf a dan reolaeth, gan sicrhau’r pedwerydd safle wrth ddod tua’r terfynol. Ond dangosodd gryfder arbennig a llwyddo i basio Linden Hall o Awstralia i orffen yn drydydd a chael gorau personol o 4.03:44.

“Dwi mewn sioc, alla i ddim credu mod i wedi rhedeg mor gyflym â hynny. Roeddwn i’n teimlo’n gryf am y 100m diwethaf. Roedd y dorf yn mynd yn wallgof, ac roeddwn i’n ceisio esgus bod y dorf yn gorfoleddu wrth i mi fynd heibio’r Aussie. Mae gen i gymaint o deulu a chefnogwyr allan yma, a dyma fy ffeinal fawr gyntaf, ac mi aeth popeth mor dda. Mae’r tîm mor agos, mae wedi bod yn brofiad cwpl arbennig.

“Yn 2015, cefais ddiagnosis o gyflwr metabolig y bu’n rhaid i mi oresgyn. Mae fy hyfforddwr a fy nheulu wedi fy helpu trwy hyn, a chefais fy ysbrydoli o wylio’r cystadlu yng Nglasgow. Roeddwn i’n gwybod fod rhaid i mi fod yma. Mae gen i’r ras 5,000m i fynd ac rwy’n edrych ymlaen at hynny hefyd. “

Cafodd Ben Gregory ddechrau da ar ail ddiwrnod decathlon y dynion wrth iddo rasio i orffen yn y trydydd lle yn rhagbrawf y ras 110m dros y clwydi mewn 15.16. Gwnaeth yn dda i aros ar ei draed ar ôl taro’r ddwy glwyd gyntaf cyn gorffen yn gryf a sicrhau’r 9fed lle ar ôl chwe digwyddiad.

Daeth ymgais orau Ben wrth daflu’r ddisgen – sef 38.85m – yn y rownd gyntaf ac roedd yn ddigon i sicrhau’r 10fed lle iddo yn y digwyddiad. Y naid polyn oedd camp olaf sesiwn y bore, ac fe gliriodd Ben uchder o 4.60m a 4.80m. Rhoddodd gynnig ar y 5.00m ond methodd wrth i wyntoedd godi, a gorffennodd yn bedwerydd ym Mhwll A gydag uchder o 4.80m.

Taflodd 57.30m gyda’r waywffon i ennill 697 o bwyntiau, a’i rhoddodd mewn sefyllfa gref iawn cyn digwyddiad olaf y gystadleuaeth.

Roedd Gregory yn gryf iawn yn y gamp olaf, y ras 1500m, ac enillodd gydag amser o 4:30.

Gorffennodd yn y seithfed safle ar ddiwedd y gystadleuaeth gyda 7449 o bwyntiau. Yn anffodus, ni orffennodd Curtis Matthews y gystadleuaeth.

Dechreuodd arllwys y glaw ar gyfer rownd derfynol y taflu morthwyl i ferched a bu’n rhaid i Carys Parry o’r Rhondda ymladd yn erbyn y tywydd yn Stadiwm Carrara. Taflodd Carys 61.58 metr yn yr ail rownd gan sicrhau’r chweched lle iddi.

Gorffennodd Caryl Granville yn 8fed yng ail ragbrawf y ras 400m dros y clwydi i ferched a hynny mewn 59.28. Doedd hynny ddim yn ddigon i’w chymhwyso ar gyfer y rownd derfynol, ond roedd yn berfformiad brwd gan un o Harriers Abertawe, a fydd yn ôl i gystadlu yn y ras 100m dros y clwydi fore Iau.

PŴER GODI

Ychwanegodd Nathan Stephens o Ben-y-bont at ei restr hir o gampau chwaraeon trwy gystadlu yn rownd derfynol y pŵer godi pwysau ysgafn i ddynion yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur.

Mae Stephens, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed yfory, yn gyn-bencampwr byd-eang mewn taflu gwaywffon (dosbarth F57). Mae hefyd yn ddeilydd record y byd ac wedi cystadlu yn y Gemau Paraolympaidd deirgwaith, yn cynnwys cystadlu dros dîm GB yn y gystadleuaeth hoci sled yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf. Ef yw un o’r enwau mwyaf ym myd Chwaraeon Anabledd ac mae hefyd yn ffigwr allweddol o ran datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru.

Ond dyma’r tro cyntaf iddo gynrychioli Cymru mewn Gemau aml-chwaraeon sylweddol. Llwyddodd i godi 140kg i orffen yn y degfed safle mewn cystadleuaeth galed iawn.

Yn ddiweddarach, gwnaeth Nerys Pearce ei hymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Cymanwlad wrth gystadlu yn y gystadleuaeth pwysau trwm i ferched. Dywed Nerys, sy’n gyn-feddyg gyda’r Fyddin ac sydd wedi cystadlu yn y Gemau Invictus, iddi fwynhau’r profiad. Daeth yn bedwerydd ar ôl codi 75kg yn y rownd gyntaf.

HOCI’R DYNION

Daeth tîm hoci dynion Cymru o fewn pedwar munud i gynhyrfu’r dyfroedd yn eu gêm pwll olaf yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur. Ond llwyddodd Lloegr i sgorio’n hwyr iawn yn y gêm i sicrhau eu lle yn y rowndiau cynderfynol. 

Sgoriodd Sam Ward dair gôl yn yr ail hanner a llwyddodd Loegr i wyrdroi’r sgôr o ddwy gôl i ddim ac ennill 3-2. 

Cymru oedd gryfaf yn yr hanner cyntaf, a manteisiodd y tîm ar unwaith pan gafodd amddiffynnwr Lloegr Ollie Willars ei anfon oddi ar y cae.

Er mai Lloegr oedd y ffefrynnau, llwyddodd y capten Luke Hawker i roi cychwyn cadarn i Gymru gyda gôl gynta’r gêm.

Wrth ddod at hanner amser, cafodd Cymru ergyb benalti ac ar ôl dwy ymgais aflwyddiannus llwyddodd Benjamin Francis i sgorio.

Ar ôl yr egwyl, dychwelodd Lloegr i’r cae yn llawer cryfach, gyda Ward yn sgorio ei gôl gyntaf ar ôl cyfnod parhaus o chwarae ymosodol.

Parhaodd Lloegr i geisio am gôl arall i ddod â’r sgor yn gyfartal a gyda 12 munud yn weddill, sgoriodd Ward eto. 

Ymladdodd Cymru’n galed, ond gyda dim ond tri munud i fynd sgoriodd Lloegr y gôl fuddugol.

Roedd yn bilsen chwerw i Gymru ar ôl chwarae’n arbennig yn erbyn tîm sy’n ffefryn i ennill yr aur.

Meddai’r capten Luke Hawker: “Rydw i’n siomedig iawn. Rwy’n teimlo y gallem fod wedi mynd ymlaen a chael y gôl nesaf pan oedden ni 2-0 ar y blaen. Wedi dweud hynny rwyn falch ein bod wedi manteisio ar y cyfleoedd yn gynnar yn y gêm.

“Fe wnaethon ni chwarae hoci da ond chawson ni ddim gymaint o feddiant o’r bêl ac mi dreulion ni fwy o amser yn amddiffyn. 

“Mae’r chwaraewyr wedi dangos fod gennym y gallu i chwarae ar y lefel yma ac i gystadlu yn erbyn y goreuon.”

Ychwanegodd James Carson: “Rydyn ni’n chwarae yn erbyn y chwaraewyr hyn yn gyson yn y gynghrair gartref (cystadleuaeth genedlaethol Lloegr), ond maen nhw wedi chwarae mwy o hoci ar lefel uwch.”

BEICIO

Gorffennodd Peter Kibble, sy’n dal i fod yn ei arddegau mewn safle parchus iawn. Daeth yn 15fed yn y treial amser unigol fore Mawrth.

Kibble yw’r beiciwr ieuengaf yn sgwad rasio Cymru. Roedd ar y blaen ar y cychwyn ond llithrodd yn is wrth i’r bore fynd ymlaen. Cameron Meyer o Awstralia a enillodd  er mawr sioc i lawer.

SBONCEN

Cafodd chwaraewyr sboncen Cymru ddiwrnod llwyddiannus ar gychwyn cystadlaethau’r dyblau ar yr Arfordir Aur.

Nid chafodd Tesni Evans, enillydd medal efydd senglau’r merched, lawer o amser i orffwys gan fod ganddi ddwy gêm arall heddiw – un gyda Deon Saffrey yn nyblau’r merched ac un arall gyda Peter Creed yn y dyblau cymysg. Enillodd Cymru’r gemau yn y ddau grŵp yn erbyn Malta a Kenya, a hynny’n gyfforddus.

EnilloddJoel Makin a Peter Creed yn nyblau’r dynion yn erbyn Sierra Leone hefyd.

Meddai Evans: “Nes i ddim cysgu llawer ar ôl ddoe. Ennill y fedal efydd yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma, ond erbyn hyn rwy’n canolbwyntio’n llwyr ar y dyblau ac rwy’n hapus â’n perfformiadau heddiw.”

TENIS BWRDD

Roedd Anna Hursey, yr eneth 11 mlwydd oed, yn cystadlu yn senglau’r merched yn Stiwdios Oxenfarm heddiw. Enillodd yn erbyn Halima Nambozo o Uganda o 4-0 yn ei gêm agoriadol.

Ond roedd y gêm nesaf yn erbyn Li Sian Alice Chang o Falaysia yn gryn a hithau wedi’i rancio 126 o safleoedd yn uwch na’r Gymrae ifanc.

Ymdrechodd Hursey ei gorau, ond roedd profiad Chang, sy’n 17 mlwydd oed, yn drech na hi ac fe gollodd y gêm o 4-0.

Yn y cyfamser, enillodd Chloe Thomas ei dwy gêm, y gyntaf yn erbyn Fatima Khan o Bacistan ac yna’n erbyn Angelisa Freemann o St Kitts a Nevis.

Collodd Joshua Stacey ei ornest gyntaf yn y senglau TT6-10. Enillodd y gêm gyntaf a’r bedwaredd ond cipiodd Kim Daybell o Loegr y bumed a’r olaf i hawlio’r fuddugoliaeth.

PÊL RWYD

Dywed tîm Cymru eu bod yn bwriadu bownsio’n ôl wedi ychydig o ddyddiau anodd yn eu gêm olaf yn y bencampwriaeth pêl-rwyd yn erbyn Malawi yfory.

Heno, collodd y tîm o 40 – 76 yn erbyn Uganda sy’n eu gosod ar waelod Pwll B heb ennill yr un gêm hyd yma. Er i Gymru greu tipyn o gyfleoedd yn gynnar yn y gêm, ddaru nhw ddim llwyddo i sgorio ac felly y bu trwy weddill y gêm.

Perfformiodd Cymru’n well ar ddechrau’r trydydd chwarter ond roedd Uganda eisoes ar y blaen o gryn dipyn. Rhoddwyd Georgia Rowe ar y cwrt a chafodd Chelsea Lewis i safle’r ymosodwr gôl er mwyn ceisio cynyddu eu sgôr ond parhaodd Uganda i chwarae’n gryf.

Bydd Cymru’n awr yn gobeithio perfformio’n well yn eu gêm olaf yn erbyn Malawi yfory am 10.00am (amser Prydain).

BOWLIO LAWNT

Curodd Daniel Salmon yn erbyn Brendan Aquilina (21-18), Taiki Paniani (21-17) ac Aaron Wilson (21-13) yn senglau’r dynion.

Curodd parau’r merched yn erbyn Jersey. Collodd y parau cymysg B2/B3 yn eu rownd gynderfynol, ond curodd pedwarawd y dynion yn erbyn Canada. Curodd triawd y merched yn erbyn Namibia ddwywaith.


Am amserlen lawn y cystadlu ar gyfer Tîm Cymru ddydd Mercher 11eg Ebrill, ewch i: https://results.gc2018.com/en/all-sports/schedule-wales.htm