Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru yn falch o gyhoeddi Edwards Coaches yn Bartner Teithio Swyddogol ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026, a gynhelir rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.

Yn rhan o’r bartneriaeth, bydd Edwards Coaches yn arwain fel y prif ddarparwr trafnidiaeth, gan sicrhau bod dirprwyaeth Tîm Cymru — sy’n cynnwys athletwyr, staff cymorth, a swyddogion — yn teithio i’r Alban mewn ffordd ddiogel, dibynadwy ac effeithlon ar gyfer 23ain Gemau’r Gymanwlad.

Mewn ymdrech gydweithredol, bydd The Travel Business, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, hefyd yn gweithio’n agos gydag Edwards Coaches a Gemau’r Gymanwlad Cymru, gan helpu i sicrhau bod pob agwedd ar y trefniadau teithio yn cael ei chwmpasu. Gyda’i gilydd, bydd y ddau bartner yn darparu trafnidiaeth integredig a di-dor i gefnogi Tîm Cymru drwy gydol cyfnod y Gemau.

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru:


“Rydym yn falch iawn o groesawu Edwards Coaches fel ein Partner Teithio Swyddogol. Gyda’u henw rhagorol am eu gwasanaeth a’u profiad o ran rheoli gweithrediadau ar raddfa fawr, rydym yn hyderus y bydd ein hathletwyr a’n tîm mewn dwylo diogel. Mae’r gefnogaeth ychwanegol gan The Travel Business yn sicrhau bod gennym ymdrech wirioneddol Gymreig y tu ôl i’r llenni, gan helpu ein tîm i gyrraedd Glasgow wedi’u paratoi, yn canolbwyntio ac yn barod i gystadlu.”

Dywedodd Simon Ingham, Rheolwr Masnachol Edwards Coaches:


“Mae’n anrhydedd chwarae rhan yn nhaith Tîm Cymru i Glasgow 2026. Mae trafnidiaeth yn elfen mor allweddol o unrhyw ddigwyddiad mawr ac rydym yn falch o’r ymddiriedaeth ynom i gyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Mae gennym hanes hir o deithio corfforaethol a darparu trafnidiaeth ar gyfer timau yn ystod can mlynedd ein bodolaeth. Bydd y tîm yn teithio’n ddiogel ac yn gysurus yn ein cerbydau, sydd o’r radd flaenaf.”

Mae’r bartneriaeth hon yn garreg filltir arwyddocaol wrth i’r paratoadau brysuro ar gyfer Glasgow 2026, gyda Thîm Cymru yn anelu at adeiladu ar ei lwyddiannau a sicrhau profiad bythgofiadwy arall yn y Gemau.