Gyda 400 diwrnod i fynd, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru (GGC) yn falch o gyhoeddi bod y darlledwr teledu Gethin Jones wedi’i benodi’n Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.
Bydd y Gemau’n cael eu cynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026, a dyma’r eildro i Glasgow gynnal y digwyddiad nodedig hwn.
Mae Gethin Jones, cyflwynydd teledu adnabyddus o Gymru, yn dod â chyfoeth o brofiad a brwdfrydedd ynghylch chwaraeon Cymru i’r rôl hon. Dechreuodd Gethin ei yrfa deledu fel cyflwynydd ar S4C cyn cyflwyno rhaglen flaenllaw Blue Peter ar y BBC. Ar hyn o bryd mae’n cyflwyno Morning Live a The One Show ar BBC One.
Mae Gethin wedi cael profiad o amgylchedd Gemau’r Gymanwlad o’r blaen fel Attaché Tîm Cymru yng Ngemau’r Gold Coast 2018. Wrth iddo ymgolli yn yr amgylchedd chwaraeon elît a gweld â’i lygaid ei hun yr ymroddiad, yr arbenigedd a’r ymrwymiad sydd eu hangen i drefnu a chyflwyno tîm i’r digwyddiad aml-chwaraeon nodedig hwn, datblygodd gymhelliant newydd a’i hysgogodd i ddychwelyd i’r brifysgol i gwblhau gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Chwaraeon, gan roi iddo’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen i gael dylanwad ystyrlon ym myd arwain chwaraeon.
Mae ei gefndir mewn chwaraeon a’r cyfryngau, ynghyd â’i gysylltiad dwfn â diwylliant Cymru, yn golygu ei fod yn arweinydd delfrydol i ysbrydoli ac arwain Tîm Cymru drwy’r Gemau sydd ar ddod fel llefarydd blaenllaw ar ran y tîm.
Cafodd Gethin hefyd brofiad gwerthfawr yn gweithio yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol eraill. Mae’r cefndir helaeth hwn, ynghyd â’i rôl fel Attaché Tîm Cymru yng Ngemau 2018, wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o amgylcheddau chwaraeon elît a gofynion rheoli chwaraeon ar lefel uchel.
Fel Chef de Mission, Gethin fydd pennaeth Tîm Cymru, gan arwain ac ysgogi athletwyr a staff cymorth, cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau swyddogol, a gweithredu fel llefarydd ar ran y tîm yn y cyfnod cyn ac yn ystod y Gemau. Bydd ei gyfrifoldebau’n cynnwys meithrin diwylliant tîm cadarnhaol a chreu perthnasoedd gyda’r athletwyr, y campau a Phwyllgor Trefnu ehangach Glasgow 2026, gan sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng yr holl randdeiliaid.
Dywedodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Gareth Davies, am y penodiad:
“Mae rôl y Chef de Mission yn hanfodol i greu diwylliant a gwerthoedd y tîm, yn fewnol ymhlith athletwyr a staff cymorth, ac yn allanol i’r cyhoedd yn ehangach. Rydym yn falch iawn bod Gethin eisiau gwneud cais am y swydd hon, ac mae’r ffaith ei fod mor broffesiynol a gwybodus yn dyst i’w ymrwymiad a’i frwdfrydedd ynghylch y rôl. Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni agosáu at y 400 diwrnod olaf cyn i’r Gemau ddechrau.”
Ychwanegodd Helen Phillips MBE, Llywydd GGC:
”Mae rôl y Chef de Mission wedi esblygu o gyfrifoldebau gweithredol yn bennaf i swydd fwy cyhoeddus lle mae mwy o bwyslais ar gyfathrebu, ac felly mae’n swydd berffaith i Gethin. Yn sgil ei brofiad fel attaché yng Ngemau’r Gold Coast 2018 cafodd ei ysbrydoli i ddyfnhau ei arbenigedd, ac aeth ati i gwblhau gradd meistr mewn cyfarwyddo chwaraeon. Mae’r cyfuniad hwn o brofiad uniongyrchol ac addysg uwch yn ei alluogi i feithrin ysbryd tîm yn effeithiol yn fewnol, a hefyd i gynrychioli’r tîm yn hyderus ar y llwyfan rhyngwladol, gan ymgorffori gofynion rôl Chef de Mission yn yr oes sydd ohoni.’’
Rhannodd Gethin Jones ei gyffro am y rôl:
“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy mhenodi’n Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’n hathletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth i gyflwyno perfformiad sy’n adlewyrchu balchder ac angerdd Cymru. Ers i mi gymryd rhan yn 2018 roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn rhan o Dîm Cymru eto, ac roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth am arweinyddiaeth a llywodraethiant a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o berfformiad ar lefel elît. Mae hi wir yn anrhydedd o’r mwyaf imi fod yn Chef de Mission Tîm Cymru.”