9 medals for team wales at samoa commonwealth youth games

Wrth i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa ddirwyn i ben, mae Tîm Cymru wedi best online casino ennill 2 fedal aur, 5 arian a 2 efydd. 

Enillwyd tair medal yn ystod y pedwerydd diwrnod o gystadlu. Enillodd Jordan Sakkas y fedal arian yng nghystadleuaeth codi pwysau 94kg y dynion, a chafwyd dwy fedal yng nghystadleuaeth dybls tenis – aur i  Rebekah O”Loughlin a Joely Lomas ac arian i Matthew Story a Ricky Hernandez. Ar y diwrnod olaf, enillodd Matthew Story y fedal efydd yn y tenis.

Ymhlith yr enillwyr eraill i Gymru yn ystod yr wythnos roedd Catrin Jones a enillodd fedal aur ar ôl codi 126kg yn y categori 48kg; a”r nofwyr Kathryn Greenslade a Rebecca Sutton a enillodd fedal arian yr un – y naill yn y gystadleuaeth 200m nofio rhydd a”r llall yn y categori 400IM. Cipiwyd dwy fedal arall yn y pwll gyda thimau cyfnewid y merched yn sicrhau medal arian yn y 4x100m ac efydd yn y gystadleuaeth 4x200m.

Bu 15 o athletwyr ifanc o Gymru, rhwng 14 a 18 oed, yn cystadlu yn y Gemau yn Samoa yr wythnos hon, dan arweiniad y Chef de Mission, Yr Athro Nicola Phillips. Wrth edrych ymlaen at y seremoni gloi ddydd Gwener (11 Medi), dywedodd Nicola: 

“Mae”r Gemau wedi bod yn ffantastig ac am dîm cymharol fychan byddwn yn dychwelyd i Gymru gyda nifer dda iawn o fedalau. Rydym wedi gweld perfformiadau gwych gan yr athletwyr, gyda sawl un ohonyn nhw yn gwella ar eu gorau personol. 

“Yn ogystal â”u perfformiadau yn y cystadlaethau rwy”n falch iawn o”r ffordd y maen nhw i gyd wedi parchu a chefnogi ei gilydd. Maen nhw wedi cynrychioli pobl ifanc Cymru yn arbennig.”

Ychwanegodd: “Mae”r holl brofiad wedi cael ei gyfoethogi gan y lleoliad anhygoel ac yn fwy na dim y croeso gwresog yr ydyn ni wedi ei dderbyn gan bobl Samoa.” 

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau”r Gymanwlad Cymru, sydd hefyd wedi treulio”r wythnos yn Samoa:

“Rydyn ni”n hynod falch o”r hyn sydd wedi ei gyflawni gan ein athletwyr ifanc. Maen nhw wedi bod yn llysgenhadon ardderchog yn Samoa ac wedi chwarae rhan lawn yn y dathliad hwn o Chwaraeon a Diwylliant y Gymanwlad.

“Mae”r Gemau Ieuenctid yn ymwneud â datblygu talent a photensial lawn gymaint ag ennill medalau. Rwy”n sicr y bydd y profiad o gystadlu yma yn garreg filltir bwysig yn eu taith tuag at lwyddiant pellach ym myd chwaraeon yn y dyfodol.

“Rydyn ni”n hynod ddiolchgar i Nicola, yr holl swyddogion â”r timau hyfforddi sydd wedi cefnogi Tîm Cymru trwy”r Gemau, a dros fisoedd lawer o hyfforddi a pharatoi trylwyr.”

Dywedodd Helen Phillips, Cadeirydd Gemau”r Gymanwlad Cymru:

“Fel y Cyngor cenedlaethol ar gyfer y Gemau hyn yng Nghymru, ni sy”n gyfrifol am ddewis ac anfon timau o athletwyr i gystadlaethau”r Gymanwlad. Ni fyddai hyn yn bosib heb y bartneriaeth gref sydd gennym gyda Chwaraeon Cymru a”r cyrff sy”n cynrychioli”r chwaraeon unigol yng Nghymru. bandovetinh Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi – ac yn – gweithio gyda ni ac yn cefnogi Tîm Cymru.

“Yn bwysicaf oll, hoffwn longyfarch y Chef de Mission, yr Athro Nicola Phillips a”i thîm sydd wedi arwain yr athletwyr ifanc a”r swyddogion i”r Gemau. Rydyn ni”n edrych ymlaen at ddilyn eu datblygiad wrth i ni edrych ymlaen at y prif Gemau yn Awstralia yn 2018.”