Mae’r dyluniad yn nodi penllanw cydweithrediad unigryw rhwng Tîm Cymru, Specialist Sports – dosbarthwr swyddogol dillad adidas Teamwear ledled y DU ac Iwerddon – ac Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr weithio ar friff diwydiant byw i greu’r cit a fydd yn cael ei wisgo gan athletwyr ar y llwyfan rhyngwladol.

Cafodd Jake Rowley, y dylunydd buddugol o Wrecsam, ei ysbrydoli gan dreftadaeth Cymru a’i symbolaeth eiconig, gan ymgorffori’r dreigiau hanesyddol sydd wedi’u cerfio o amgylch y cloc yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd i greu motiff draig beiddgar a thrawiadol sydd i’w weld ar draws y cit.

Wrth siarad am ei ddyluniad, dywedodd Jake:
“Mae’n anrhydedd gwirioneddol cael cyfle fel hyn i gynrychioli Cymru. Mae diwylliant a hanes y wlad hon yn llawn symbolau pwerus o farchogion a dreigiau canoloesol, ac rwy’n teimlo bod y rhain yn trosi’n dda i’r byd chwaraeon.

Y nod oedd creu darnau sy’n grymuso’r athletwyr sy’n eu gwisgo, gan roi balchder a hyder iddynt ynddynt eu hunain ac fel rhan o Dîm Cymru.

Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda gweithwyr proffesiynol go iawn y diwydiant a chlywed adborth uniongyrchol gan yr athletwyr a fydd yn gwisgo’r citiau. Diolch i bawb a gymerodd ran, alla i ddim aros am Glasgow!”

Yn dilyn cyhoeddiad cychwynnol y bartneriaeth, datblygodd 16 o fyfyrwyr gradd BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn Met Caerdydd gysyniadau, gan weithio’n agos gyda Thîm Cymru, Specialist Sports, a’r Comisiwn Athletwyr. Cyflwynwyd y dyluniadau’n gynharach eleni, gyda Jake yn cael ei ddewis fel yr enillydd.

Ers hynny, mae Jake wedi gweithio ochr yn ochr â Specialist Sports i fireinio a chwblhau’r dyluniadau cyn eu cynhyrchu, gan sicrhau bod y casgliad yn cydbwyso cyfforddusrwydd, ymarferoldeb a hunaniaeth weledol ar gyfer athletwyr a staff Tîm Cymru.

Mae’r cit sydd newydd ei ddadorchuddio yn cyfuno adrodd straeon wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth gyda dyluniad perfformiad modern, a bydd yn cael ei wisgo gan athletwyr Tîm Cymru drwy gydol Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026.

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru:
“Rydyn ni’n hynod falch o ddadorchuddio’r cit hwn, sydd wir yn dal ysbryd a hunaniaeth Cymru. Roedd dyluniad Jake yn sefyll allan am ei fod yn adrodd stori gref ac am ei effaith weledol feiddgar, ac mae wedi bod yn wych ei weld yn datblygu o’r cysyniad i’r cynnyrch terfynol.

Mae’r cydweithrediad hwn yn parhau i ddangos cryfder ein partneriaeth gyda Met Caerdydd a Specialist Sports, gan roi llwyfan i ddylunwyr ifanc talentog ddisgleirio ar lwyfan rhyngwladol.”

Bydd cit Tîm Cymru yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf swyddogol yng Ngemau’r Gymanwlad 2026 yn Glasgow yr haf hwn, gydag athletwyr yn derbyn eu cit am y tro cyntaf yn y digwyddiad cit swyddogol rhwng 6 a 8 Gorffennaf cyn y Gemau, sy’n dechrau ar 23 Gorffennaf.