Mae’r Baton Cymreig sydd wedi’i gynllunio’n unigryw ar gyfer Taith Baton y Brenin wedi’i ddatgelu’n swyddogol heddiw, cyn ei daith ledled Cymru rhwng 19 a 24 Mehefin.
Wedi’i ddylunio gan yr artist enwog o Gymru, Nathan Wyburn, mae’r baton yn ddathliad beiddgar a chreadigol o hunaniaeth, diwylliant a balchder chwaraeon Cymru. Yn adnabyddus am ei dechnegau artistig anghonfensiynol a’i allu i adrodd straeon gweledol trawiadol, mae Nathan wedi creu baton sy’n ystyrlon ac yn gofiadwy, gan adlewyrchu ysbryd Tîm Cymru a’r cymunedau y mae’n eu cynrychioli.
Mae’r baton wedi’i greu mewn cydweithrediad â Dragon Signs, y mae eu crefftwaith wedi sicrhau bod gweledigaeth Nathan wedi’i thrawsnewid yn ddarn trawiadol ac ymarferol sy’n barod i deithio’r genedl.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru:
“Rydyn ni’n hynod falch o ddadorchuddio ein Baton Cymreig, symbol gwirioneddol arbennig o daith ein cenedl i Gemau’r Gymanwlad. Mae Nathan wedi creu rhywbeth sy’n dal creadigrwydd, angerdd a balchder Cymru, ac rydyn ni’n ddiolchgar i Dragon Designs am ddod â’r weledigaeth honno yn fyw gyda chymaint o ofal ac arbenigedd.
Mae Taith Baton y Brenin yn gyfle pwerus i gysylltu â chymunedau ledled Cymru, dathlu ein hathletwyr a chreu cyffro cyn y Gemau. Allwn ni ddim aros i weld y baton yn ysbrydoli pobl wrth iddo deithio ar hyd a lled y wlad.”
Ychwanegodd Nathan Wyburn, sy’n artist diwylliant pop o Gymru:
“Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy newis i gynrychioli fy ngwlad, a dylunio’r gwaith celf ar gyfer Baton y Brenin. O ystyried mai ‘Cymuned’ oedd ein gair dewisol ar gyfer Cymru, roedd yn gwneud synnwyr fy mod yn seilio’r syniad o amgylch ein pobl, ein hathletwyr! Creais glytwaith o gannoedd o luniau, i ffurfio ein baner fywiog a’r un orau yn y byd. Mae’r lliwiau’n feiddgar ac egnïol, ac mae’n wirioneddol yn sgrechian CYMRU. Roedd gweithio gyda Dragon Signs i lapio’r baton pren hefyd yn bleser, maen nhw’n wych yn yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn gweld fy ngweledigaeth ar gyfer sut y byddai’r gwaith celf yn edrych o gwmpas pob ochr i’r dyluniad.
Nathan Black, Cyfarwyddwr Masnachol Dragon Signs:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn ar gyfer Tîm Cymru wrth iddyn nhw fynd i Gemau’r Gymanwlad. Mae’r dyluniad yn adrodd stori mor arbennig ac yn dal ysbryd a balchder cymunedol sy’n gwneud Cymru yr hyn ydyw. Roedd ein tîm lapio wrth ein bodd yn cyfrannu at ddod â’r baton yn fyw, ac allwn ni ddim aros i’w weld yn cael ei gario gan athletwyr anhygoel Cymru ar lwyfan y byd.”
Dechreuodd Taith Baton y Brenin ei thaith fyd-eang ym Mhalas Buckingham ar 10 Mawrth 2025 ac mae wedi teithio trwy genhedloedd a thiriogaethau’r Gymanwlad cyn y Seremoni Agoriadol yr haf hwn. Mae eleni yn nodi ymagwedd unigryw, gyda phob cenedl yn dylunio ei baton ei hun, gan arddangos hunaniaeth a chreadigrwydd unigol.
Wrth iddo deithio ledled Cymru, bydd y baton yn ymweld â chymunedau, tirnodau a digwyddiadau, gan ddathlu treftadaeth Cymru ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr.
Mae Gemau’r Gymanwlad yn dechrau ar 23 Gorffennaf, lle bydd y baton yn cymryd ei le yn y Seremoni Agoriadol.