Mae Whisper Cymru, busnes y cwmni cynhyrchu byd-eang arobryn Whisper yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Thîm Cymru.
Fel partner swyddogol, bydd Whisper Cymru ac Academi Whisper yn gweithio’n agos gyda Thîm Cymru i gyflwyno cynnwys arloesol ac ysbrydoledig ar draws cyfres podlediadau Tîm Cymru a fydd yn dechrau yn nes ymlaen eleni. Bydd y pwyslais ar ddathlu taith yr athletwyr wrth iddynt baratoi ac anelu am Gemau’r Gymanwlad. Bydd y gyfres hefyd yn edrych ar hanes ein cyn athletwyr eiconig yn y Gymanwlad sydd wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf sy’n anelu at lwyddiant rhyngwladol ar y llwyfan byd-eang.
Mae’r cydweithrediad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y daith i ddathlu a hyrwyddo athletwyr Cymru ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae’r bartneriaeth yn dangos yr ymrwymiad rydym yn ei rannu i adrodd straeon, amrywiaeth, a chynrychioli Cymru gyda balchder a chreadigrwydd. Gydag enw da am gyflwyno darllediadau chwaraeon o ansawdd uchel ar draws llwyfannau, bydd Whisper Cymru yn cynyddu lleisiau athletwyr Cymru ac yn dod â’u straeon yn fyw trwy gynnwys diddorol.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru, am y bartneriaeth:
“Mae’r bartneriaeth hon gyda Whisper Cymru yn ymwneud â mwy na chynnwys – mae’n golygu cysylltu pobl â’n hathletwyr a meithrin ymdeimlad cryfach o falchder cenedlaethol. Mae creadigrwydd a phroffesiynoldeb Whisper yn eu gwneud yn bartner perffaith wrth i ni edrych ymlaen at Gemau’r Gymanwlad nesaf a thu hwnt.”
Ychwanegodd Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i Whisper Cymru wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau – dathlu a hyrwyddo talent, adrodd straeon yn greadigol ac yn ddidwyll, a chreu platfform a fydd yn cysylltu ein hathletwyr ar Dîm Cymru yn well gyda’u cefnogwyr a’r cyhoedd yn ehangach. Rydym eisoes yn bwrw ymlaen ar gyfer Glasgow 2026, ac yn edrych ymlaen at adeiladu perthynas hirdymor yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae’r bartneriaeth eisoes ar y gweill, gyda Whisper Cymru yn gweithio gyda Thîm Cymru ar gyfweliadau unigryw a phroffiliau athletwyr i ddechrau’r paratoadau ar gyfer gemau Glasgow a dangos cyfoeth amrywiol chwaraeon Cymru o fewn Gemau’r Gymanwlad.