Bydd y Gemau, sy’n dod ag athletwyr 14-18 oed ynghyd o bob rhan o’r Gymanwlad, yn gweld tua 1,150 o gystadleuwyr ifanc o 74 o wledydd a thiriogaethau yn cystadlu mewn wyth camp. Mae’r rhaglen yn cynnwys Athletau a Phara Athletau, Pêl-rwyd, Sboncen, Nofio a Phara Nofio, Triathlon, Codi Pwysau, ac am y tro cyntaf mewn Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, Hwylio a Pholo Dŵr.

Mae’r cyhoeddiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad i hyrwyddo cyfleoedd, cynhwysiant ac ymgysylltu ieuenctid ar draws yr holl aelod-wledydd – yn enwedig mewn gwladwriaethau bach ac ynysoedd. Bydd cysyniad ynys ddeuol Malta, (tebyg i Gemau Trinbago ddwy flynedd yn ôl), yn arddangos lleoliadau o’r radd flaenaf ledled Malta a Gozo, gyda phentrefi athletwyr mewn gwestai ar y ddwy ynys.

Bydd y rhifyn hwn o’r Gemau yn cynnwys y rhaglen chwaraeon Para fwyaf yn hanes Gemau Ieuenctid y Gymanwlad, gyda Phara Nofio wedi’i ychwanegu am y tro cyntaf – penderfyniad sy’n ychwanegu at gynhwysiant llwyddiannus Para Athletau yn Trinidad a Tobago 2023.

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru:

“Rydym wrth ein boddau mai Malta sydd wedi’i chyhoeddi fel lleoliad Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2027. Mae’n gyfle anhygoel i’n hathletwyr ifanc o Gymru gynrychioli eu gwlad, profi cystadleuaeth ryngwladol lefel uchel, a datblygu ar y cae ac oddi arno. Mae’r Gemau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio sêr y dyfodol, ac rydym yn falch o gefnogi’r genhedlaeth nesaf wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith gyffrous hon.”

Mae Tîm Cymru’n edrych ymlaen at baratoi a chefnogi ei athletwyr ar y ffordd i Malta 2027, gan barhau â’i ymrwymiad i ddatblygu talent ifanc a hyrwyddo dyfodol chwaraeon cynhwysol ac ysbrydoledig.