Tîm Cymru yn ymweld ag Awstralia cyn Victoria 2026
Pennaeth Gweithrediadau Matt Cosgrove a’r Pennaeth Ymgysylltu Cathy Williams yn ymweld â Victoria cyn Gemau’r Gymanwlad 2026.
Fis diwethaf, Tîm Cymru oedd y wlad gyntaf i ymweld â’r ddinas letyol cyn y Gemau mewn tair blynedd.
Cafodd y tîm gyfle i gwrdd â’r Pwyllgor Trefnu yn eu Prif Swyddfa yn Geelong cyn ymweld â safleoedd ar draws y rhanbarthau lluosog, a fydd yn cynnal ac yn cyflwyno rhaglen chwaraeon llawn gweithgareddau.
Dywedodd Matt Cosgrove, Pennaeth Gweithrediadau’r Gemau “Mae wedi bod yn ychydig ddyddiau llawn dop o gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl i ddod yn ôl a helpu i lunio ein cynlluniau. Gyda’r heriau ddaw gyda’r ffaith bod y Gemau ymhell i ffwrdd Awstralia ac wedi’u lledaenu ar draws pum safle gwahanol yn y rhanbarth roedd angen i ni sicrhau gyda’n gilydd ein bod yn gofyn cwestiynau allweddol, yn edrych ar bob manylyn posibl a sut y gallwn gefnogi’r tîm ehangach yn y ffordd orau ymhen tair blynedd.”
Bydd y Gemau aml-ddinas cyntaf erioed, gyda chanolfannau yn Geelong, Ballarat, Bendigo, Gippsland a Shepparton yn gartref i athletwyr gorau’r Byd yn ystod Mawrth 17-29 2026.
Bydd y pum hyb rhanbarthol yn cynnal 20 o chwaraeon a 9 camp para, sef y nifer uchaf erioed, yn ystod y 12 diwrnod o gystadlu, gyda Golff a Rhwyfo Arfordirol yn ymddangos am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad. Bydd Maes Criced Melbourne yn cynnal y Seremoni Agoriadol drawiadol a bydd Parc Kardinia yn Geelong yn cau 23ain Gemau’r Gymanwlad.
Rhoddodd yr ymweliad gyfle hefyd i’r tîm ddod o hyd i lety ychwanegol ar gyfer staff cymorth, lleoliadau posibl ar gyfer digwyddiadau Tîm Cymru a chyfleoedd gwerthfawr i gwrdd â’r gymuned Gymreig leol.
Dywedodd y Pennaeth Ymgysylltu Cathy Williams ‘Mae’r rhagchwiliad hwn wedi bod yn hynod fuddiol i ni fel sefydliad, ar lefel weithredol ac ymgysylltu; cwrdd ag aelodau tîm allweddol o fewn yr OC, pobl leol ym mhob un o’r hybiau ac wrth gwrs dal i fyny â’r Cymry lleol ac adeiladu rhwydwaith lleol sy’n hollbwysig i ni gan ein bod yn byw mor bell i ffwrdd o Victoria’’
Ychwanegodd Rebecca Edwards Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru;
”Roedd yr ymweliad hwn yn hanfodol i Cathy a Matt fynd allan i Victoria i gael gwir deimlad o’r ardal a’r logisteg o fynd â thîm draw i’r Gemau yn 2026. Mae’r wybodaeth a gasglwyd ac a rannwyd ar ôl dychwelyd wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol at ein cynllunio ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen at y 3 blynedd nesaf o baratoi i gyflwyno’r tîm sydd wedi paratoi orau ar gyfer Victoria 2026.’’