Tîm Cymru yn dathlu Wythnos Cymru Llundain

Tîm Cymru yn dathlu Wythnos Cymru Llundain

Mae Wythnos Cymru Llundain 2024 yn ddathliad o Gymru ledled Llundain, ac oherwydd ei llwyddiant a’r diddordeb brwd o Gymru ac yn rhyngwladol, mae’r digwyddiad bellach yn cael ei gynnal am bron i fis yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth.

Cynhaliodd Tîm Cymru dri digwyddiad yn ystod Wythnos Cymru Llundain. Croesawodd y digwyddiad cyntaf, ‘Newid y Gêm – Noson o chwaraeon a busnes Cymreig’, a gynhaliwyd mewn lleoliad hyfryd yng nghanolfan cymod a heddwch St Ethelburga, ar y cyd gan Tîm Cymru, Mauve Group ac Athletau Cymru, dros 100 o westeion i Bishopsgate. Ymunodd y gwesteion arbennig, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Aled Siôn Davies MBE a Christian Malcolm â Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Tîm Cymru, i roi cipolwg ar eu cyfraniad rhagorol i chwaraeon, yng Ngemau’r Gymanwlad, ac yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae’r Farwnes Tanni wedi ennill 16 o fedalau mewn 5 o Gemau Paralympaidd, 13 o fedalau Pencampwriaeth y Byd, 6 ohonyn nhw’n Aur, ac mae wedi ennill y record chwe gwaith ym Marathon Llundain.

Soniodd Tanni hefyd am ei gyrfa mewn busnes a gwleidyddiaeth, a sut mae cynwysoldeb yn hollbwysig i gymdeithas heddiw.

Enillodd Christian Malcolm ei fest Brydeinig gyntaf yn ddim ond 17 oed, a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yng Ngemau Athen 2000. Cystadlodd mewn 4 o Gemau Olympaidd, a Llundain 2012 oedd ei Gemau olaf. Daeth yn bencampwr iau’r Byd ym 1998 yn y 100m a’r 200m, gan ddod yr ail athletwr mewn hanes i ennill y dwbl yn y digwyddiad hwn.

Rhoddodd Christian gipolwg ar ei yrfa fel hyfforddwr ac annog y genhedlaeth nesaf o athletwyr i anelu am lwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae Aled Siôn Davies wedi bod ar frig y podiwm ym mhob un o’r prif ddigwyddiadau, yn fwyaf diweddar gyda’r fedal Aur yn y ddisgen FXX yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham 2022. Soniodd am ei ddyheadau i ailadrodd llwyddiant Tokyo ac ennill medal Aur yng Ngemau Paralympaidd Paris yr haf hwn.

Ymhlith y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad roedd Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rachel Langford, Kerry Katsapaos o Mauve Group, Prif Weithredwr Athletau Cymru, James Williams, a Phrif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons.

Dywedodd Rebecca, ‘Roedd aelodau’r panel heb eu hail. Roedd eu straeon, eu llwyddiannau a’u safbwyntiau’n ddiddorol iawn. Ni allai’r gwesteion aros i siarad â nhw ar ôl i’r panel orffen, sy’n dangos pwysigrwydd cael unigolion fel Tanni, Aled a Christian yn chwifio’r faner dros Gymru. Roedd yn noson arbennig, ac yn bartneriaeth wych gyda Mauve ac Athletau Cymru.’

Y bore wedyn, aeth Christian ac Aled draw i Ysgol Gymraeg Llundain. Trwy gyfrwng y Gymraeg, rhoddodd Cathy gipolwg ar hanes cyfoethog Tîm Cymru a’r llwyddiannau ysbrydoledig mae’r Gemau wedi’u cynhyrchu. Cafodd y disgyblion gyfle i holi Aled a Christian cyn cael sesiwn ymarferol ddifyr yn eu neuadd chwaraeon.

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, ‘Am ysgol wych! Roedden ni’n falch iawn o ymweld â’r ysgol unwaith eto. Mae ein Pennaeth Ymgysylltu, Cathy, wedi gweithio gyda’r ysgol dros nifer o flynyddoedd; mae’n wych gallu dod ag ychydig o Gymru i’r disgyblion ifanc. Roedd y croeso a gawsom yn ardderchog, ac roedd Aled a Christian yn anhygoel gyda’r plant.’

Cynhaliwyd digwyddiad olaf Wythnos Cymru Llundain ym mhrif swyddfa RBC yn Bishopsgate. Ymunodd Tîm Cymru â RBC, Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru, gyda Pure Cyber yn cynnal y derbyniad diodydd ar ôl y digwyddiad.

Roedd y noson, o’r enw ‘Ehangu – Menywod mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon’, yn cynnwys panel trawiadol o arweinwyr benywaidd: Abi Tierney, Prif Weithredwr benywaidd cyntaf URC; Alys Carlton, Cadeirydd benywaidd cyntaf CBDC; a Phrif Weithredwr benywaidd cyntaf Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons.

Ymunodd Brian Davies â’r panel cryf, gan roi cipolwg ar bwysigrwydd cael arweinwyr benywaidd cryf mewn chwaraeon, a’r angen i gefnogi ein gilydd, fel unigolion ac fel sefydliadau.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan y ddarlledwraig a chyflwynydd teledu BBC Cymru, Lucy Owen.

Siaradodd Abi, Alys a Rebecca am heriau dringo’r ysgol arweinyddiaeth mewn chwaraeon, uchafbwyntiau llwyddiant a’r gefnogaeth aruthrol gan gyd-arweinwyr a sefydliadau Cymreig.

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, y Prif Weithredwr, ‘Roedd yn noson mor ddiddorol, ac roedd yn wych cael bod yn rhan o’r panel. Roedd clywed gan Abi ac Alys a’r esgidiau maen nhw wedi gorfod eu llenwi yn eu sefydliadau yn ddiddorol iawn, ac roedd yn galonogol clywed safbwynt Brian ar arweinwyr benywaidd. Mae ganddo gyfoeth o brofiad o arwain sefydliad a gobeithio bod pawb yn yr ystafell wedi’u codi a’u hysbrydoli gan y drafodaeth agored a gonest.’