Mae ITCS yn gwmni technoleg busnes arobryn sy’n gweithio ar draws y DU, a sydd â’u prif swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Mae ITCS ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau TG o’r radd flaenaf, gan roi’r gallu i fusnesau ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Gan arbenigo ym meysydd Cymorth TG, Telathrebu Busnes, a Datblygu Meddalwedd, mae ITCS wedi bod yn creu datrysiadau arloesol ac unigryw sy’n sbarduno effeithlonrwydd, diogelwch, a thwf, i’w cleientiaid ers dros 20 mlynedd.

Maen nhw’n ymfalchïo yn eu dibynadwyedd, eu tryloywder, eu harbenigedd, eu harloesedd rhagweithiol, a’r ffordd maen nhw’n blaenoriaethu’r cwsmer. 

Dywedodd Brian Stokes o ITCS (UK) LTD: “Mae ITCS yn falch o ddod yn bartner Tîm Cymru, ac i sefyll ochr yn ochr ag athletwyr gorau’r genedl wrth iddyn nhw gystadlu ar lwyfan y Gymanwlad. Fel cwmni sy’n ymroi i arloesedd, i ragoriaeth, ac i gymuned, rydym yn meddwl bod y bartneriaeth hon yn gweddu i’r dim. Mae’n cefnogi’r ymroddiad, y gwytnwch a’r uchelgais sy’n diffinio Tîm Cymru ac ITCS. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r daith anhygoel hon, gan helpu i rymuso athletwyr ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael ITCS yn bartner. Bydd eu henw da a’u gwerthoedd craidd yn ategu ac yn cefnogi Tîm Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer Gemau’r haf nesaf. Mae cefnogaeth dechnolegol effeithlon a dibynadwy yn hollbwysig i ni, wrth i ni gasglu data’r holl chwaraeon dros y misoedd nesaf, ac mae’n braf gwybod y bydd Brian a’i dîm ar y daith hon gyda ni.”