Arweiniodd athletwyr Gemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd ddigwyddiad Diwrnod y Gymanwlad Tîm Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn ymuno â Jeremiah Azu, sydd newydd gael ei goroni’n bencampwr rasio gwib Ewrop, ar y panel roedd Emma Finucane, pencampwr y Gemau Olympaidd a’r Pencampwriaethau Byd, Rosie Eccles, enillydd medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, a Ruby Evans, y gymnastwr Olympaidd.
Mae Diwrnod y Gymanwlad yn cael ei ddathlu ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth ar draws y 74 Gwlad a Thiriogaeth yn y Gymanwlad.
Bu cynrychiolwyr o sawl rhan o’r Gymanwlad yn bresennol ym mhrif wasanaeth Diwrnod y Gymanwlad, dan arweiniad y Brenin Siarl, yn Abaty Westminster, gan gynnwys y Cymro Aled Siôn Davies, a fu’n bencampwr yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd, a Bethan Dyke, a fu’n aelod o dîm pêl-rwyd Cymru deirgwaith yng Ngemau’r Gymanwlad.
Yn ogystal â dathlu athletwyr talentog Cymru, mae Diwrnod y Gymanwlad yng Nghymru hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y gymuned, ac mae ysgolion lleol wedi bod yn rhan ganolog o’r digwyddiad ers i Dîm Cymru ddechrau cynnal eu digwyddiadau eu hunain yn 2018.
Y delynores ifanc Anwen Thomas o Ysgol Penweddig a agorodd y digwyddiad wrth i westeion gyrraedd y lleoliad hanesyddol. Rhoddodd disgyblion cynradd Ysgol Plascrug drosolwg hanesyddol i’r gynulleidfa o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ers iddynt ddechrau yn 1930 (pan elwid hwy yn Gemau’r Ymerodraeth). Rhoddodd côr Ysgol Llanilar berfformiad trawiadol, ac fe wnaethant hefyd ymuno â’r gantores ryngwladol Gwawr Edwards am berfformiad o’r emyn Cymraeg enwog, ‘Calon Lân’.
Daeth y digwyddiad i ben gyda’r Anthem Genedlaethol, dan arweiniad Gwawr, ac ymunodd yr athletwyr, yr ysgolion, partneriaid Tîm Cymru a’r holl westeion yn y gynulleidfa yn y canu.
Hefyd, cynhyrchodd y tîm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru arddangosfa o gynnwys hanesyddol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad oedd wedi’i archifo, gan gynnwys Gemau 1958 a gafodd eu cynnal gan Gymru yng Nghaerdydd.Dywedodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, “Am ddiwrnod! Mae dathliad Diwrnod y Gymanwlad yma yng Nghymru yn wahanol iawn i’n digwyddiadau eraill ni. Roedd yna dalent ar y llwyfan ’na, o’r athletwyr anhygoel yn rhannu eu straeon ysbrydoledig i’r dalent leol ifanc, i glywed llais perffaith Gwawr Edwards, mae’n dangos y gymuned a’r balchder sydd gennym yma yng Nghymru. Hwn oedd y tro cyntaf i lawer o’r gynulleidfa fod mewn digwyddiad Tîm Cymru, ac mae’r adborth a gawsom yn cadarnhau’r gefnogaeth sydd gennym i’n gilydd. Roedd cynnal y digwyddiad eleni yn Llyfrgell Genedlaethol eiconig Cymru yn Aberystwyth yn arbennig iawn hefyd. Ac wrth gwrs, mae nodi 500 diwrnod i fynd tan y Gemau y flwyddyn nesaf yn rhoi’r naws gyffrous ychwanegol honno i ni o’r misoedd sydd i ddod wrth i ni baratoi Tîm Cymru a mynd i’r Alban ar gyfer ein 23ain Gemau’r Gymanwlad.”