Team Wales announces Kurrawa Surf Club as Welsh Centre during 2018 Games
Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi lle fydd lleoliad eu hwb cefnogwyr yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.
Cadarnhawyd mai Clwb Syrffio Kurrawa fydd cartref Canolfan Cymru yn ystod Gemau 2018. Dyma lle bydd cefnogwyr Tîm Cymru o Gymru a thu hwnt yn dod at ei gilydd i gymdeithasu a gwylio’r cystadlu.
Mae Clwb Syrffio Kurrawa yng nghanol Broadbeach, ac yn edrych dros y Môr Tawel. Mae’n cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd a bydd canolfan newydd sbon yn agor erbyn diwedd 2017.
Bydd y Clwb newydd yn cynnig cyfleusterau ardderchog i Dîm Cymru ac yn rhoi lleoliad anhygoel i ymlacio a chynnal digwyddiadau.
Meddai Rob Aldous, Rheolwr Clwb Syrffio Kurrawa: “Ry’n ni’n hynod falch bod Tîm Cymru wedi dewis ein Clwb fel lleoliad ar gyfer Canolfan Cymru yn ystod Gemau’r Gymanwlad.
“Mae digwyddiadau aml-chwaraeon yn dod â llawer o fwrlwm i’r Clwb, fel ddigwyddodd ym mis Tachwedd yn ystod y Gemau Pan Basiffig lle bu 12,000 o athletwyr a chefnogwyr yn ymgynnull dros bythefnos.
“Allwn ni ddim disgwyl i weld yr un cyffro yma pan fydd Tîm Cymru a’u cefnogwyr yn cyrraedd.
“Mae yna lawer o Gymry ac Awstraliaid o dras Cymreig yma ar yr Arfordir Aur, ac rwy’n sicr y byddan nhw i gyd yn dod allan i gefnogi Ebrill nesaf.”
Mae Richard Vaughan Jones, yn wreiddiol o’r Wyddgrug ac sy’n rhedeg grwp Facebook Cymry’r Arfordir Aur, yn un o’r Cymry hynny sy’n byw yn Awstralia.
Meddai Richard: “Mae yna lawer iawn o gyffro am y Gemau yma’n barod a llawer o gefnogaeth i Dîm Cymru yn dilyn eu hymweliad i’r Arfordir Aur y llynedd.
“Mae Clwb Syrffio Kurrawa yn lleoliad ardderchog i Ganolfan Cymru – alla i ddim disgwyl i weld fy nghyd Gymry o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i gefnogi ein Tîm.”
Meddai Cathy Williams, un o Reolwyr Tîm Cyffredinol Tîm Cymru: “Canolfan Cymru fydd ein prif hwb y tu allan i’r Pentref a byddwn yn croesawu athletwyr, eu ffrindiau a’u teuluoedd, a chefnogwyr yno.
“Fe ddaru ni ymweld â’r Clwb tra’r oedden ni yn Awstralia y llynedd ac mae’r cyfleusterau newydd a fydd ar gael yn wych.
“Rydyn ni’n falch iawn eu bod wedi dewis partneru gyda ni i ddarparu Canolfan Cymru yn ystod y Gemau, ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw a’u haelodau am gefnogi Tîm Cymru.
“Mae hwn yn gam arall cyffrous a phwysig wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer Ebrill 2018.”
Cliciwch yma i weld delweddau digidol o’r Clwb newydd.