Tîm Cymru yn cyhoeddi partneriaeth cit gydag adidas ar gyfer Glasgow 2026
Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi mai adidas yw ei bartner dillad hamdden swyddogol cyn y Gemau nesaf yn Glasgow 2026.
Mae Specialist Sports, dosbarthwr dillad tîm adidas ar draws y DU ac Iwerddon, wedi’i benodi gan Dîm Cymru i ddylunio a chyflenwi dillad hamdden adidas i athletwyr ac aelodau’r tîm ar gyfer Gemau 2026.
Bydd y casgliad yn cael ei ddylunio gan Specialist Sports mewn cydweithrediad â Thîm Cymru a Chomisiwn Athletwyr Tîm Cymru.
Mewn llai na 2 flynedd, bydd 74 o wledydd a thiriogaethau ar draws y Gymanwlad yn cyrraedd yr Alban i gystadlu yn 23ain Gemau’r Gymanwlad ers ei sefydlu yn 1930.
Dywedodd Rob Hutchison, Cyfarwyddwr Dillad Tîm Specialist Sports ‘Rydym wrth ein bodd yn dylunio ac yn cyflenwi dillad hamdden adidas ar gyfer Gemau 2026. Mae adidas yn adnabyddus am eu hymroddiad i berfformiad, steil ac arloesedd ac yn rhannu ein hymrwymiad i greu dillad tîm o ansawdd uchel. Rydyn ni’n deall pa mor hanfodol yw darparu cit o’r radd flaenaf i athletwyr ac aelodau’r tîm ac rydyn ni’n teimlo’n gyffrous i ddatgelu’r dyluniadau newydd yn fuan.”
Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru ‘Mae dod ag adidas i mewn i ddylunio dillad hamdden Tîm Cymru yn gyffrous, nid yn unig i’r athletwyr a’r tîm ehangach, ond i ni fel gwlad mae cael brand byd-eang mor eiconig yn rhan o’n tîm yn wych. Mae cael cit o ansawdd uchel wedi’i ddylunio’n dda yn bwysig iawn i’r athletwyr, felly bydd y misoedd nesaf, wrth i ni gynllunio, dylunio a chyrraedd y nod gydag adidas, yn gyffrous iawn ac mae’r tîm ar dân i ddechrau arni.”