Rebecca Edward-Symmons
Prif Swyddog Gweithredol
Mae gwybodaeth a phrofiad Rebecca o gefnogi tîm, datblygu strategaeth gadarn, a chydweithio helaeth ar draws amrywiaeth o sectorau yn nodweddion sy’n cael eu hategu gan gymeriad atyniadol ac angerddol a fydd yn parhau i danio brwdfrydedd ein gwaith, ein staff a’n haelod-sefydliadau.”
Fel un sydd wedi graddio’n ddiweddar o raglen Prif Swyddogion Gweithredol Sefydliad Chwaraeon gydag Addysg Weithredol VSI, bydd Rebecca yn cyrraedd gyda chyfoeth o brofiad masnachol, marchnata, trawsnewid digidol, rheoli newid ac arweinyddiaeth.
Dywedodd Rebecca: “Alla i ddim aros i arwain ein gwlad i mewn i gynllunio cylch cyffrous iawn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Ieuenctid yr haf nesaf, a Gemau’r Gymanwlad 2026 yn Awstralia.
“Rwy’n ffodus iawn i gael bwrdd medrus iawn a staff gwych i’m cefnogi ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar gyfnod anhygoel Chris yn ei swydd. Mae’n arbennig iawn cael olynu arweinydd o’r fath ac edrychaf ymlaen at ddechrau ar fy siwrnai.”