Matt Cosgrove
Pennaeth Gweithrediadau Gemau
Mae Matt wedi gweithio o fewn chwaraeon perfformio yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwaraeon Cymru, i ddechrau fel ffisiolegydd ac yn ddiweddarach fel Rheolwr Athrofa Chwaraeon Cymru. Am y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Perfformiad Beicio Cymru yn goruchwylio’r rhaglen berfformio sydd wedi cynhyrchu Pencampwyr Olympaidd, Byd, Gemau’r Gymanwlad ac Ewrop.
Mae Matt wedi mynychu 6 o Gemau diweddaraf y Gymanwlad fel rhan o Dîm Cymru. Mae wedi bod yn arweinydd tîm beicio ar gyfer y ddwy gêm ddiwethaf a chyn hynny roedd mewn amrywiaeth o swyddi o fewn staff y pencadlys yn ogystal â rolau chwaraeon penodol.