Swimmers selected to represent Wales at the 2015 Commonwealth Youth Games

Mae Gemau”r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi”r tîm o nofwyr a fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa ym mis Medi.

Dewisiwyd y sgwad o saith gan Gemau”r Gymanwlad Cymru ar online casino y cyd â Nofio Cymru yn seiliedig ar berfformiad diweddar yr athletwyr mewn amrywiol ddigwyddiadau. 

Mae”r tîm yn cynnwys:

  •  Dan Davies (Sir Benfro)
  • Emelia Stevenson (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Joe Clark (Guildford)
  • Kathryn Greenslade (Preston)
  • Mari Davies (Caernarfon)
  • Rebecca Sutton (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Sophie Evans (Abertawe)

Gemau”r Gymanwlad Cymru yw”r corff cenedlaethol sy”n gyfrifol am ddethol athletwyr o safon fyd eang a”u hanfon i gystadlu dros Gymru ym mhrif Gemau”r Gymanwlad a”r Gemau Ieuenctid.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau”r Gymanwlad Cymru: “Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn gyfle gwych i”n hathletwyr ifanc gael profiad o gystadlu mewn digwyddiad mawr. Dyma fydd y tro cyntaf

i nifer ohonyn nhw gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.

“Cafodd Tîm Cymru lawer o lwyddiant yn y pwll yn y Gemau yn Glasgow y llynedd, gyda nofwyr o Gymru yn ennill y nifer fwyaf erioed o fedalau. Bydd y digwyddiad yn Samoa yn helpu i ddatblygu”r genhedlaeth newydd o nofwyr ifanc talentog sydd â”r potensial i ddod yn sêr y dyfodol.”

Yn teithio gyda”r tîm nofio i Samoa bydd Stuart McNarry, Prif Hyfforddwr, Claire Rosser, Prif Reolwr y Tîm a Gill Jacob, Rheolwr Tîm Cynorthwyol.

Meddai”r Prif Hyfforddwr Stuart McNarry o Nofio Cymru: “Rydym wedi dewis tîm cryf iawn o nofwyr ar gyfer Samoa. Maen nhw wedi perfformio”n ardderchog mewn digwyddiadau diweddar, ac mae pob un ohonyn nhw yn hyfforddi”n galed er mwyn paratoi ar gyfer y Gemau.

“Bydd y profiad o gystadlu yn Samoa yn amhrisiadwy i”r nofwyr ifanc yma wrth iddyn nhw edrych ymlaen i”r prif Gemau yn Arfordir Aur Queensland, Awstralia yn 2018. Pob hwyl iddyn nhw i gyd.”

Mae nofio yn un o dri chategori lle bydd athletwyr o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Ieuenctid, a gynhelir eleni am y pumed tro ers sefydlu”r digwyddiad yn 2000. Cyhoeddwyd y tîm codi pwysau ym mis Ebrill, a bydd y sgwad tenis yn cael ei ddewis a”i gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.