Selection update: 93 more athletes selected for Gold Coast across 11 sports
· 93 o athletwyr yn cael eu cadarnhau ar gyfer yr Arfordir Aur, gan wneud cyfanswm athletwyr Tîm Cymru hyd yma yn 124
· Athletwyr wedi eu dewis ar gyfer 11 o chwaraeon, yn cynnwys codi pwysau, pwer godi a’r pum para-chwaraeon
· Cyhoeddiad ynglyn â’r sgwadiau chwaraeon tîm a gymnasteg i ddod yn yr wythnosau nesaf
Heddiw, datgelodd Gemau’r Gymanwlad Cymru enwau’r athletwyr diweddaraf sydd wedi cael eu dewis i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur.
Mae 93 o ahtletwyr wedi cael eu dewis mewn 11 o chwaraeon, yn dilyn enwebiadau gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol a phroses ddethol gan Fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru.
Byddant yn ymuno â’r 31 o athletwyr a gadarnhwyd y llynedd ar gyfer codi pwysau a phara-chwaraeon.
Mae hyn yn gwneud cyfanswm athletwyr Tîm Cymru hyd yma yn 124. Yn yr wythnosau nesaf, disgwylir cyhoeddiad am yr athletwyr sydd wedi eu dewis ar gyfer sgwadiau’r chwaraeon sy’n weddill – sef gymnasteg, pêl-rwyd, rygbi saith bob ochr merched a dynion, a hoci merched a dynion.
Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru wrth wneud y cyhoeddiad: “Rydyn ni’n falch iawn o fedru cyhoeddi’r athletwyr hyn heddiw. Mae’n gam mawr tuag at gwblhau sgwad Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur.
“Mae cael eu dewis i Dîm Cymru yn fraint fawr i’r athletwyr elitaidd yma, ac mae’n ganlyniad i’r holl waith caled ac ymroddiad y maen nhw’n barod wedi ei ddangos wrth hyfforddi a chystadlu at y lefel uchaf.
“Diolchwn i’r holl hyfforddwyr a staff, y cyrff llywodraethu cenedlaethol, Chwaraeon Cymru – ac wrth gwrs ffrindiau a theulu’r athletwyr – sydd wedi bod yn allweddol wrth eu helpu ar hyd y ffordd, ac a fydd yn parhau i’w cefnogi ar weddill y daith i Gemau’r Gymanwlad 2018.
“Mae’r Tîm yn cynnwys rhai o bencampwyr adnabyddus Cymru, yn ogystal â thalent newydd. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant a chynnydd chwaraeon yma yng Nghymru. Mae safon yr athletwyr ym mhob un o’r chwaraeon yn argoeli’n addawol ar gyfer Gemau llwyddiannus a phresenoldeb Cymru ar y podiwm am flynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi penodi tîm gwych o swyddogion profiadol i gefnogi’r athletwyr sy’n mynd i’r Arfordir Aur, dan arweiniad y Chef de Mission Yr Athro Nicola Phillips.
“Byddwn ni fel Bwrdd, ar y cyd â thîm gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, yn parhau i weithio gyda Nicki a’r swyddogion eraill i sicrhau bod gan ein hathletwyr yr amgylchiadau gorau bosibl i gyflawni eu gorau ac ennill medalau i Gymru ar yr Arfordir Aur.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n hariannwyr, noddwyr a phartneriaid sy’n ein cefnogi ar y daith i Gemau 2018 ac i’r bawb sy’n cefnogi’r athletwyr yma yng Nghymru a thu hwnt.
“Wrth i’r paratoadau barhau, dymunwn bob llwyddiant i’r athletwyr ac edrychwn ymlaen at weld Tîm Cymru yn rhagori yn Awstralia ac yn ysbrydoli eraill gartref i gyflawni mewn chwaraeon ac mewn meysydd eraill.”
ATHLETWYR A GYHOEDDWYD GAN DÎM CYMRU HYD YMA, WEDI’U RHESTRU YN ÔL TREFN YR WYDDOR FESUL CAMP:
Athletau: Hollie Arnold (para); Rowan Axe ; Olivia Breen (para); Rebecca Chapman; Melissa Courtney; Andrew Davies; Bethan Davies; Seren Bundy Davies; Caryl Granville; Dai Greene ; Ben Gregory; Dewi Griffiths; Josh Griffiths; Jonathan Hopkins; Beverley Jones (para); Caryl Jones; Morgan Jones (para); Osian Jones; Rhys Jones (para); Elinor Kirk; James Ledger (para); Heather Lewis; Tom Marshall; David Omoregie; Carys Parry-Evans; Sally Peake; Ieuan Thomas
Beicio: James Ball (para); Elinor Barker; Rhys Britton; Eleanor Coster; Scott Davies; Sam Harrison; Joe Holt; Ciara Horne ; Rachel James ; Dylan Kerfoot-Robson; Pete Kibble ; Manon Lloyd; Zachery May ; Jon Mould; Lewis Oliva ; Daniel Pearson ; Dani Rowe ; Luke Rowe ; Ethan Vernon; Stephen Williams
Bocsio: Rosie Eccles ; Billy Edwards; Lynsey Holdaway; Kyran Jones; Sammy Lee; Mickey McDonagh; Lauran Price
Bowlio Lawnt: Anwen Butten; Laura Daniels; Stephen Harris; Jonathan Hubbard (para); Raymond Lillycrop (para); Gilbert Miles (para); Ross Owen; Daniel Salmon; Jess Sims; Caroline Taylor; Julie Thomas (para); Jonathan Tomlinson; Pauline Wilson (para); Emma Woodcock; Marc Wyatt
Codi Pwysau a Phwer Godi: Seth Casidsid; Gareth Evans ; Sean Gaffney (para); Tayla Howe; Laura Hughes; Catrin Jones; Holly Knowles; Harry Misangyi; Joshua Parry ; Nerys Pearce (para); Faye Pittman; Hannah Powell; Jordan Sakkas; Nathan Stephens (para); Rhodri West; Christie Williams
Nofio a Deifio: Jazz Carlin ; Xavier Castelli; Georgia Davies; Kathryn Greenslade; Aidan Heslop; Calum Jarvis; Daniel Jervis; Ellena Jones; Harriet Jones ; Alex Rosser (para); Beth Sloan ; Alys Thomas ; Jack Thomas (para); Chloe Tutton; Harriet West
Reslo: Kane Charig: Curtis Dodge
Saethu: Craig Auden; Mike Bamsey; Sian Corish ; Coral Kennerley; Ben Llewellin; Gareth Morris; David Phelps; Chris Watson; Mike Wixey; Sarah Wixey
Sboncen: Peter Creed; Tesni Evans; Joel Makin; Deon Saffery
Tenis Bwrdd: Charlotte Carey; Anna Hursey; Joshua Stacey (para); Chloe Thomas
Triathlon: Iestyn Harrett; Liam Lloyd; Olivia Mathias; Non Stanford