Clogau
Mae Clogau yn fusnes teuluol ail genhedlaeth yng Ngogledd Cymru gyda dros 30 mlynedd o brofiad o greu gemwaith unigryw wedi’i orffen â llaw o’r ansawdd a’r gwreiddioldeb uchaf, a chyda chysylltiad balch â theulu brenhinol Prydain.
Ers 100 mlynedd, mae llawer o fodrwyau priodas Teulu Brenhinol Prydain, gan gynnwys rhai’r Frenhines Elisabeth II a’r Dywysoges Catherine, wedi’u creu ag aur o gloddfa Clogau yn Eryri – yr un aur Cymreig prin sydd ym mhob darn o emwaith Clogau heddiw.
Mae ein dyluniadau cain wedi’u hysbrydoli gan harddwch naturiol, chwedlau, traddodiadau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a threftadaeth gyfoethog Cymru.