Pure Cyber


Mae PureCyber wedi’i hen sefydlu fel arweinydd yn y diwydiant ac yn darparu ystod gyflawn ac unigryw o atebion seiberddiogelwch a reolir 247 / 365 ar gyfer busnesau o unrhyw faint, o fewn unrhyw sector ac unrhyw leoliad ledled y byd.

Cenhadaeth PureCyber yw cryfhau gwydnwch a chadernid seiberddiogelwch mewnol ac allanol busnes yn wyneb ymosodiad, trwy eu gwasanaethau a’u tîm arobryn, arloesol. Gan ddarparu effeithlonrwydd a rhagoriaeth, mae PureCyber yn gweithio ar y cyd fel estyniad o alluoedd mewnol sefydliadau er mwyn sicrhau bod lefelau priodol o seiberddiogelwch yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn ddealladwy i bob busnes.