Partner newydd ar gyfer Tîm Cymru
Mae Browne Jacobson, cwmni cyfreithiol sector preifat a chyhoeddus, wedi dod yn 12fed partner cymunedol a phartner tîm ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Cymru dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae’r cwmni, sy’n gweithredu yn y DU ac Iwerddon, wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid ledled Cymru ers 20 mlynedd, ac wedi agor swyddfa yng Nghaerdydd, ei seithfed lleoliad, yn haf 2023.
Yn ogystal â bod yn gwmni o arbenigwyr cyfreithiol, mae hefyd yn arweinydd balch mewn amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, gyda chyfres o fentrau sy’n ceisio mynd i’r afael â bylchau symudedd cymdeithasol yn y proffesiwn cyfreithiol.
Dywedodd Tim Edds, Pennaeth swyddfa Caerdydd Browne Jacobson: “Roedd y bartneriaeth gyda Thîm Cymru yn ffitio’n naturiol i ni cyn gynted ag y gwnaethon ni gwrdd â Rebecca.
“Mae ein gwerthoedd yn cyd-fynd yn llwyr ac rydyn ni’n llawn cyffro am y cyfleoedd a ddaw yn sgil gweithio mewn partneriaeth â Thîm Cymru, yn enwedig mewn perthynas â symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant o safbwynt chwaraeon a busnes.
“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd a chydweithio â busnesau eraill o Gymru o’r un anian sydd eisoes yn bartneriaid i Dîm Cymru.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons: “Mae’n wych croesawu Browne Jacobson fel partner newydd. Maen nhw’n arbenigwr cyfreithiol enwog ledled y DU ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth dros y cylch nesaf. Rydyn ni wedi profi pa mor dda rydyn ni wedi gweithio gyda’n partneriaid newydd dros y 12 mis diwethaf, a bydd yn gyfle allweddol i ni weithio ochr yn ochr â Browne Jacobson i wneud y gorau o gyfleoedd partneriaeth a datblygu perthnasoedd ystyrlon mewn busnes yng Nghymru.”