Non Stanford announced as Team Wales captain

Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi mai’r driathletwraig, Non Stanford, fydd eu Capten ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Bydd Non yn arwain tîm cryf o 200+ o athletwyr ym mis Ebrill.

Cafodd Non ei synnu wrth cael cynnig y rôl, ond mae’n disgrifio’r anrhydedd sy’n gysylltiedig â chystadlu dros Gymru. Dywedodd:

“Cefais yr alwad a’r cynnig i fod yn gapten wrth baratoi i deithio i Dubai ac roeddwn i mewn sioc! Mae’r capten yn rôl fawr ac rwy’n ddiolchgar iawn o gael y teitl ar gyfer Tîm Cymru sy’n teithio i Awstralia fis nesaf.”

Collodd Non allan ar fod yn rhan o Dîm Cymru yn Glasgow 2014 oherwydd anaf. Aeth ymlaen i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio 2016 ond collodd allan ar y funud olaf ar fedal efydd.

“Mae Gemau’r Gymanwlad wedi bod yn freuddwyd i mi ers pan o’n i’n ifanc, hyd yn oed cyn y Gemau Olympaidd. Pan oeddwn i’n tyfu lan, fy mreuddwyd oedd cystadlu dros fy ngwlad. Roedd colli allan ar y Gemau yn Glasgow yn anodd iawn i fi, felly mae’r cyfle yma i wisgo’r crys coch ac i arwain Tîm Cymru yn wych – dwi wrth fy modd!

“Dyma’r tro cyntaf erioed i mi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad felly dwi mor gyffrous, mae’n wirioneddol yn fy ngwthio i gyflawni mwy i mi ac i’r tîm. Rydw i’n cystadlu ar ddiwrnod cyntaf y Gemau felly dwi’n ei weld e fel cyfle i ysbrydoli gweddil y tîm o’r cychwyn.

“Rydyn ni mor batriotig fel cenedl, felly pan gewch gyfle i gystadlu dros Gymru, mae’n amser arbennig iawn yn eich gyrfa ac yn wahanol i unrhyw gyfle arall. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Cymru gyfan yn dangos cefnogaeth i’r tîm tra byddwn ni’n cystadlu.”

Dywedodd Nicola Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru:

“Mae’r capten yn cael ei ddewis am ei nodweddion arweinyddiaeth unigol a gallu i ysbrydoli tîm, agwedd ac ymddygiad ar y maes cystadlu. Fel arfer, maent yn rhywun sydd wedi cael profiad o Gemau mawr ac yn deall y pwysau ychwanegol sydd ar yr athletwyr a’r parch a chred sydd angen ar y tîm.

“Rydym yn hynod o falch bod Non wedi cytuno i ymgymryd â’r rôl bwysig hon. Mae Non yn gallu arwain trwy esiampl ac mae hi wedi dangos cymaint o gryfder yn barod ar ôl anaf cyn y Gemau diwethaf. Gobeithio y bydd hyn yn cynyddu hyder ein tîm ac yn ysbrydoli pawb nôl adref.”