Gemau’r Gymanwlad yn dychwelyd i Glasgow
Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad wedi cyhoeddi y bydd Gemau 2026 yn dychwelyd i’r Alban, 12 mlynedd ers i’r ddinas gynnal y digwyddiad aml-gamp yn 2014.
Cynigiodd Commonwealth Games Scotland ddull arloesol heb unrhyw arian cyhoeddus, gan fanteisio ar y cyfleusterau sydd yno eisoes, a dilyn llwyddiant Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014, sef y digwyddiad aml-gamp mwyaf erioed yn yr Alban gyda bron i 5000 o athletwyr ar draws 71 o wledydd a thiriogaethau.
Bydd y Gemau’n cael eu hariannu gan fuddsoddiad Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, ac mae Cymdeithas Gemau’r Gymanwlad Awstralia wedi addo buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i bontio unrhyw ddiffyg ariannol.
Mae’r Alban wedi cynllunio dewis gwahanol hyfyw ar gyfer Gemau 2026 a bydd yn cyflwyno gwedd newydd ar gyfer y digwyddiad aml-gamp. Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, ynghyd â Commonwealth Games Scotland, wedi canolbwyntio ar greu model cydweithredol a chynaliadwy, gyda cyn lleied o gost â phosibl, a lleihau’r ôl troed amgylcheddol.
Nid yw’r amserlen chwaraeon wedi’i chwblhau eto ond yn sicr bydd yn llai na Birmingham 2022, ac er bod y Gemau olaf yn ninas yr Alban wedi cynnal 18 o gampau, bydd model newydd Gemau’r Gymanwlad dipyn yn llai, gan lunio dyfodol y Gemau.
Y campau a gadarnhawyd yw Athletau a Phara Athletau, Nofio a phara Nofio, Pêl-fasged 3 x 3 a para-Pêl fasged cadair olwyn, Bocsio, Beicio Trac a phara Beicio, Gymnasteg artistig, Jiwdo, Bowlio a phara Bowlio, Codi Pwysau a phara-codi pŵer, a phêl-rwyd.
Dywedodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Gareth Davies ‘Mae’n newyddion gwych bod Glasgow wedi’i gadarnhau fel lleoliad nesaf y Gemau. Rydym yn gwybod y gallan nhw gyflwyno Gemau i safon eithriadol, ac er bod ganddyn nhw lai na 2 flynedd i roi pethau ar waith, rydym yn hynod o gefnogol i’r cyhoeddiad, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Commonwealth Games Scotland yn y cyfnod cyn Gemau 2026. Mae’n siomedig wrth gwrs i’r campau sydd ddim wedi eu cynnwys yng Ngemau ’26, ond byddwn yn sicrhau bod cyfathrebu cyson rhyngom ni a’n holl gampau sy’n aelodau wrth i ni fynd i Glasgow a’r Gemau sy’n dilyn. Rydym yn canolbwyntio’n nawr ar y 18 mis nesaf, a bydd gennym dîm ymroddedig o staff, staff cymorth a gwirfoddolwyr a fydd yn sbardun i sicrhau bod Tîm Cymru unwaith eto’n cyflawni ar lwyfan y byd.’
Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru ‘Rydym ni a holl Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad wedi bod yn aros am y newyddion yma ers peth amser, felly mae cael y cyhoeddiad yma heddiw yn sicr yn gam cadarnhaol tuag at y Gemau, ac allwn ni fel Tîm Cymru ddim aros i ddechrau ar y gwaith cynllunio.
Doeddwn i ddim yn y swydd ar gyfer Gemau Glasgow 2014, ond o safbwynt gwyliwr roedd yn rhagorol, ac o’r holl siarad cadarnhaol am y Gemau nesaf, a’r hyn y mae’r Alban yn gallu ei gyflawni, mae 2026 yn gyffrous ac yn sbardun i bob Cymdeithas Gemau’r Gymanwlad fod yn rhan o daith arbennig tuag at gyflwyno tîm cryf i’r Gemau.
Mae llawer o waith o’n blaenau ni nawr, ond allwn ni ddim aros i gael cynlluniau ar waith a mynd â’n tîm i’r Gemau.”