First para-athletes selected for Team Wales at 2018 Commonwealth Games
Heddiw, cyhoeddodd Gemau’r Gymanwlad Cymru enwau’r para-athletwyr cyntaf sydd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.
Mae chwech o athletwyr wedi cael eu dewis i gystadlu dros Gymru mewn para-athletau y flwyddyn nesaf. Bydd James Ledger, Rhys Jones a Morgan Jones yn cynrychioli Cymru yn ras 100m y dynion (T12, T37 a T47), tra bydd Olivia Breen yn cystadlu yn ras 100m T38 y merched yn ogystal â’r naid hir T38. Hefyd yn cystadlu yn y naid hir, yn y categori T37, bydd Beverly Jones. Mae Hollie Arnold, sydd wedi ei rancio’n gyntaf yn y byd, wedi cael ei dewis ar gyfer cystadleuaeth y waywffon.
Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol sy’n cynnwys rhaglen para-chwaraeon integredig. Mae rhaglen para-chwaraeon 2018 y fwyaf yn hanes y Gemau – gyda hyd at 300 o bara-athletwyr a 38 o fedalau mewn saith o gampau. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 45% yn nifer yr athletwyr a 73% yn fwy o fedalau o gymharu â’r gystadleuaeth para-chwaraeon yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014.
Meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Llongyfarchiadau i’r para-athletwyr sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur. Maen nhw wedi serennu ar y llwyfan rhyngwladol yn barod, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn perfformio dros Gymru y flwyddyn nesaf. Mae’r fraint o gael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn brawf o’u hymroddiad fel unigolion a hefyd y gefnogaeth wych a gânt gan eu hyfforddwyr, teuluoedd, Chwaraeon Anabledd Cymru ac Athletau Cymru.”
Meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid: “Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn hynod falch fod y para-athletwyr hyn wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru. Bydd mwy o bara-chwaraeon nag erioed o’r blaen yng Ngemau’r Gymanwlad yr Arfordir Aur, ac mae’n wych gweld fod tîm mor gryf o bara-athletwyr wedi cael eu dewis ar gyfer athletau. Mae’t tîm yn cynnwys cyfuniad o bencampwyr y byd, sêr Paralympaidd, ac athletwyr newydd sy’n adlewyrchu cymaint o waith datblygu para-athletwyr sydd yn digwydd yma yng Nghymru.”
Meddai Pennaeth Hyfforddi a Pherfformiad Athletau Cymru, Scott Simpson: “Rydyn ni yn Athletau Cymru ar ben ein digon o gael cadarnhad fod y 6 para-athletwr yma wedi cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru. Mae yna brofiad sylweddol o fewn y grwp yma; mae 4 ohonyn nhw wedi cystadlu mewn Gemau aml-chwaraeon eraill, a dau ohonyn nhw wedi ennill medalau mewn cystadlaethau byd-eang. Does dim amheuaeth y bydd y profiad hwn, ynghyd â’r ffaith fod rhai o’r rhedwyr yn dal i fod yn ifanc iawn, yn arwain at berfformiadau a chanlyniadau gwych yn Awstralia.”
Ychwanegodd Carol Anthony, Cadeirydd Bwrdd Athletau Cymru: “Mae cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn wobr arbennig i’r athletwyr am eu hymdrechion anhygoel yn 2017 – mae’r chwech ohonyn nhw wedi cyflawni record bersonol eleni. Mae’n gydnabyddiaeth o’u cyflawniad hyd yma ac yn adlewyrchu’r gwaith sy’n mynd rhagddo y tu ôl i’r llenni i gefnogi eu datblygiad. Dyma’r nifer fwyaf erioed o bara-athletwyr i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ac rwy’n hyderus y byddan nhw’n gwneud hynny gyda balchder ac angerdd. Ar ran Athletau Cymru, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bob un ohonynt.”