Ras Gyfnewid Baton y Frenhines
Queen’s Baton Relay event schedule (Locations & timings subject to change. Further details to be added, including BatonBearers, public events and media opportunities) DAY 1: Wednesday 29 June YNYS Mon – The Baton will enter Wales via Lifeboat to Holyhead sailing club – Royal Welsh Band will perform followed by a welcome reception – Multi…
Cyn Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 ym mis Gorffennaf eleni, bydd Taith Baton y Frenhines yn teithio drwy Gymru cyn mynd i Loegr ac yn olaf i fyny i Birmingham ar gyfer y Seremoni Agoriadol ar 28 Gorffennaf yn Stadiwm Alexander.
Bydd rhan Cymru yn dechrau yn Ynys Môn ar 29 Mehefin ar ôl dod i mewn o Ogledd Iwerddon, a bydd yn teithio drwy Gymru am bum niwrnod, gan ymweld â threfi, pentrefi a thirnodau allweddol ar draws gogledd, gorllewin a de Cymru.
Lansiwyd Taith Baton y Frenhines gan y Frenhines ar 7 Hydref y llynedd, mewn seremoni ym Mhalas Buckingham Mae’r Baton yn ymweld â phob un o 72 o wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad am 294 diwrnod, gan deithio 140,000 cilometr.
Cynhaliwyd Taith Baton y Frenhines am y tro cyntaf yn 1958 yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, a bydd y Daith yn cael ei chynnal am yr unfed tro ar bymtheg eleni. Mae Taith Baton y Frenhines yn draddodiad sy'n dathlu, yn cysylltu ac yn cyffroi cymunedau o bob rhan o'r Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau.
Amserlen digwyddiadau Taith Baton y Frenhines
(Gall lleoliadau ac amser newid. Manylion pellach i’w hychwanegu, gan gynnwys pwy fydd yn cludo’r Baton, digwyddiadau cyhoeddus a chyfleoedd ar gyfer y cyfryngau)
DIWRNOD 1: Dydd Mercher 29 Mehefin
YNYS Mon
- - Bydd y Baton yn cyrraedd Cymru ar fad achub i glwb hwylio Caergybi – bydd Band Brenhinol Cymru yn perfformio ac yna bydd derbyniad i'w groesawu
- - Gweithgareddau aml-chwaraeon ar y cae 3G lleol
- - Cystadleuaeth codi pwysau yn HAWFC, dan arweiniad Cyfarwyddwr Perfformiad Codi Pwysau Cymru, Ray Williams
- - Canolfan Hamdden Caergybi; Ysgolion yn cystadlu yng nghampau Gemau’r Gymanwlad
- - Porthaethwy
Gwynedd
- - Y Baton yn cyrraedd Bethesda lle bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn taith gyfnewid
- - Côr lleol yn perfformio yng Nghanol y Dref
- - Llyn Dinas i Feddgelert, gyda wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri
- - Portmeirion gyda Derek Brockway
DIWRNOD 2: Dydd Iau 30 Mehefin
- - Ysgol Craig Deryn ym Mro Dysynni ac yna Ysgol Penybryn yn Nhywyn a thaith gyfnewid drwy strydoedd y dref
- - Trên stêm i Abergynolwyn
Ceredigion
- - Aberystwyth; Trafodaeth ar newid hinsawdd
- - Y Daith yn cychwyn yn y clwb Bowls, Coedlan y Llwyfen ac i lawr i orsaf reilffordd Cwm Rheidol
- - Canolfan yr Urdd Llangrannog; Gweithgareddau a thaith i lawr i'r traeth
DIWRNOD 3: Dydd Gwener 1 Gorffennaf
Sir Benfro
- - Cyrraedd Castell Henllys; Caer o’r oes Haearn, plant ysgol
- - Yr harbwr; Cadetiaid Môr yn teithio i lawr y Doc i'r môr ar gychod
- - Wdig; Ail-greu 225 mlynedd ers goresgyniad diwethaf Prydain
- - Ysgol Bro Gwaun; Ymgais Record Byd gyda phêl rygbi
Sir Gaerfyrddin
- - Parc Gwledig Pen-bre; Taith i lawr y llethr sgïo ac ar dobogan, ac yna cludo’r Baton ar feic i’r traeth
- - Trosglwyddo’r Baton i rywun mewn cadair olwyn sy'n addas i'r traeth, ac ar fad achub i gyfeiriad RNLI Porth Tywyn (Digwyddiad cymunedol)
- - Taith Triathlon Llwybr yr Arfordir i Lanelli
- - Gweithgareddau dŵr ym Mae Saint Elli
- - Ffasiwn cynaliadwy Onesta yn Llanelli
DIWRNOD 4: Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf
Castell-nedd Port Talbot
- - Baglan; Symposiwm ar Garbon yng Nghanolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru
- - Car hydrogen yn cludo’r Baton i Barc Margam
- - Digwyddiad chwaraeon a thaith gyfnewid gyda phlant lleol
RhCT
- - Canolfan gymunedol Aberfan ac yna taith gyfnewid ar hyd Llwybr Taf i ganolfan hamdden Merthyr; clybiau chwaraeon lleol
- - Gwifren sip yn Hirwaun
- - Cwm Clydach; digwyddiad chwaraeon iau ar gae King George
DIWRNOD 5: Dydd Sul 3 Gorffennaf
- - Casnewydd; Digwyddiad Geidiaid, Sgowtiaid a Brownis yn yr amgueddfa Athletau Genedlaethol
- - Canolfan foli traeth Parc Fictoria, Treganna
- - Sioe Awyr Abertawe gydag arddangosfa parasiwt
- - Baton yn gadael am Loegr i'w gadarnhau
(Manylion ac amseriadau pellach i ddilyn)