Diwrnod y Gymanwlad Cymru 2023
Eleni cynhaliwyd Diwrnod y Gymanwlad Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd gyda thyrfa lawn o wylwyr a gwesteion i nodi llwyddiant Tîm Cymru a’r effaith hanesyddol y mae chwaraeon Cymru wedi’i chael ar draws y Gymanwlad.
Ymunodd enillwyr Medalau Aur y Gymanwlad Aled Siôn Davies, Gemma Frizzelle ac Olivia Breen â Chapten Tîm Birmingham 2022, Anwen Butten, yn ogystal â’r enillydd medal efydd, y seren sboncen Tesni Evans a’r para-nofwraig Lily Rice, a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y Gemau yn Birmingham yr haf diwethaf.
Wrth i westeion gyrraedd, bu’r delynores ddawnus, Efa Peake o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn diddanu’r dorf cyn y lansiad swyddogol.
Nid chwaraeon oedd yr unig adloniant yn y digwyddiad. Perfformiodd y gantores a’r gyfansoddwraig Bronwen Lewis ei chân wych ‘Ti a Fi’, a bu disgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg leol Hamadryad yn rhan ganolog o’r dathliadau trwy gydol y bore. Yn ogystal â bod yn gwisfeistri i’r athletwyr mewn sesiynau holi ac ateb, buont yn canu ‘Dwi’n Gymro Dwi’n Gymraes’ ac yn cyd-ganu ‘Calon Lân’ gyda’r ddawnus Bronwen Lewis i gloi’r digwyddiad.
Rhoddodd y disgyblion drosolwg hanesyddol o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad gan bwysleisio’r cyfoeth o lwyddiant y mae athletwyr Cymru wedi’i gyflawni ers i’r Gemau ddechrau yn 1930.
Perfformiodd y gantores opera Anne Wilkins berfformiad hudolus o ‘Novello-Waltz of my heart’.
Daeth Nicola Phillips OBE, Chef de Mission Birmingham 2022, a’r Bencampwraig Paralympaidd a Chymanwlad lluosog Olivia Breen i’r llwyfan i rannu eu straeon Cymanwlad a’u balchder o gynrychioli eu gwlad ar lwyfan y byd.
Dywedodd y Pennaeth Ymgysylltu, Cathy Williams a chyflwynydd y digwyddiad, “Mae Diwrnod y Gymanwlad yn gyfle gwych i ni ddathlu Cymru ar hyd a lled y wlad, nid yn unig y llwyddiant ar y maes chwarae adeg y Gemau, ond y dalent gyfoethog sydd gennym o’r celfyddydau, hanes a chwaraeon i’r genhedlaeth nesaf. Roedd ein digwyddiad eleni, unwaith eto, yn dangos cryfder a dyfnder y doniau a’r angerdd integredig sydd gennym ni i gyd, ac ni allwn ddiolch digon i’n holl westeion ar y llwyfan a’r holl westeion a ddaeth i gefnogi a mwynhau’r digwyddiad. Diolch o galon.’’
Cynhelir Diwrnod y Gymanwlad yn flynyddol ar ail ddydd Llun mis Mawrth, gan ddod â phob un o’r 72 o wledydd a thiriogaethau ar draws y Gymanwlad ynghyd.
Y thema eleni yw ‘Creu dyfodol cyffredin cynaliadwy a heddychlon’. Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn canolbwyntio ar hyrwyddo ‘blwyddyn ieuenctid’ gyda phwyslais ar adeiladu gwell yfory i bobl ifanc y Gymanwlad.
Yn cynrychioli Tîm Cymru yng ngwasanaeth Abaty San Steffan roedd yr eicon hoci Leah Wilkinson, y chwaraewraig o Gymru sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau mewn hanes, a gyhoeddodd ei hymddeoliad yn gynharach eleni.
Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymri, ‘’Fel Cymraes angerddol, roedd cael y cyfle i chwifio’r faner yn Abaty San Steffan ar gyfer Tîm Cymru ochr yn ochr â Leah yn wych. Roedd gwybod bod gennym ni garfan gref o staff, athletwyr ac aelodau a chymdeithion allweddol angerddol gartref a oedd yn dathlu popeth Cymreig yn gyfle gwych i ddod â Chymru a’r Gymanwlad at ei gilydd unwaith eto.”
Ychwanegodd Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips MBE, ‘Fel bob amser rwy’n hynod falch o’n staff, gwirfoddolwyr ac athletwyr sy’n mynd yr ail filltir i hyrwyddo’n organig pwy ydym ni fel cenedl. Mae Diwrnod y Gymanwlad ar draws yr holl genhedloedd yn adnodd allweddol i ddod â ni at ein gilydd fel y ‘gemau cyfeillgar’ enwog, ac i ni fel ‘Tîm Cymru’ yn sicr nid oes angen unrhyw anogaeth arnom i ddangos ein balchder o’n mamwlad. Mae cefnogaeth ein haelodau a phartneriaid allweddol yn hollbwysig i lwyddiant parhaus Tîm Cymru. Bydd y Gemau Ieuenctid yr haf hwn yn Trinbago, yna byddwn ni’n canolbwyntio ar Victoria 2026. Allwn ni ddim aros.’’