Cyhoeddi Chef de Mission Gemau Ieuenctid y Gymanwlad

Gemau’r Gymanwlad Cymru yn cyhoeddi mai Matt Cosgrove, Pennaeth Gweithrediadau’r Gemau, yw Chef de Mission y gemau ieuenctid yr haf hwn.

Bydd Matt, a ymunodd â’r Sefydliad ym mis Ionawr 2022 ac a fu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Perfformiad Beicio Cymru yn flaenorol, yn gweithio gyda’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol i sicrhau bod y chwaraeon a’r athletwyr yn cael y gefnogaeth orau yn y cyfnod yn arwain at y Gemau.

Bydd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn cael eu cynnal fis Awst am y tro cyntaf mewn hanes gan y genedl o ddwy ynys y Caribî, Trinidad a Tobago, yn dilyn gohirio’r Gemau yn 2021 oherwydd y pandemig.

Bydd yr athletwyr, rhwng 14 a 18 oed, yn cystadlu ar draws saith camp wahanol – Pêl-rwyd Fast5, Rygbi Saith Bob Ochr, Triathlon, Nofio, Pêl Foli Traeth, Beicio (Trac a Ffordd) ac Athletau.

Moment hanesyddol arall fydd cynnwys Para Athletau – y gamp baralympaidd gyntaf i’w hychwanegu at raglen chwaraeon y Gemau Ieuenctid.

Dywedodd Matt Cosgrove,

‘Mae’n anrhydedd mawr cael fy nhwahodd i arwain Tîm Cymru yn Trinbago 2023. Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn gyfle gwych i athletwyr ifanc brofi amgylchedd aml-Gemau. Mae gennym ni dalent ifanc a chyffrous o fewn y chwaraeon ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut maen nhw’n perfformio ar y llwyfan hwn. Byddwn yn sicrhau bod popeth yn ei le i’w helpu i berfformio ar eu gorau.’

Meddai Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru,

‘Mae’n wych cael Matt fel Chef de Mission ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yr haf hwn. Mae’r cyfoeth o brofiad sydd gan Matt o weithio mewn amgylchedd perfformio ym maes beicio mewn nifer o gemau, ynghyd â’r profiad a gafodd fel dirprwy chef de mission yn Birmingham 2022, yn ei wneud yn berson delfrydol i arwain y tîm.

Rydym yn edrych ymlaen at fynd â thîm ieuenctid cryf i Trinbago i ddangos i’r Gymanwlad y dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd cystadlu mewn Gemau Ieuenctid yn rhoi cyfle datblygu amhrisiadwy i’r athletwyr hyn sy’n dymuno dilyn yn ôl traed cyn-athletwyr Cymreig y Gemau Ieuenctid, sydd wedi parhau ar eu taith i Gemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd.”