Cathy Williams appointed as Games Manager for Commonwealth Games Wales

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi penodi Cathy Williams yn Rheolwr Gemau. Bydd Cathy, sydd wedi cael gyrfa lwyddiannus ym maes newyddiaduraeth chwaraeon, yn gweithio gyda’r Prif Weithredwr i gynllunio, delifro a rheoli gweithgareddau yn gysylltiedig â Gemau’r Gymanwlad, Gemau Ieuenctid y Gymanwlad a Thaith Baton y Frenhines. 

Mae Cathy, sy’n wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn Y Bari gyda’i gwr Alun a’u dau o blant, bob amser wedi bod yn hynod hoff o chwaraeon a dywed fod cael ei phenodi i’r rôl yma fel “gwireddu breuddwyd”.

Ar ôl graddio mewn Datblygu Chwaraeon o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, bu Cathy yn gweithio fel Hyfforddwr Personol ac yna fel athrawes Addysg Gorfforol cyn symud i faes newyddiaduraeth ac ymuno â’r BBC. Mae wedi cyflwyno a gohebu o nifer o ddigwyddiadau chwaraeon sylweddol yn cynnwys Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. Yn fwyaf diweddar bu’n ffilmio eitem ar gystadleuaeth Ewro 2016 gyda Gareth Bale ar gyfer cyfres Kickabout MOTD CBBC, ac yn cynhyrchu rhaglenni Pencampwriaeth Nofio Ewropeaidd yr IPC yn Funchal, Madeira ar gyfer Channel 4.

Dywedodd Cathy: “Mae ymuno â thîm Gemau’r Gymanwlad Cymru fel gwireddu breuddwyd. Yn ystod fy ngyrfa newyddiadurol, rwyf wedi cael llawer o brofiad o weithio’n agos gydag athletwyr elitaidd a sefydliadau chwaraeon ac wedi cael fy ysbrydoli gan eu hymroddiad. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael gweithio’n agosach fyth ag athletwyr o Gymru, a’r tîm o reolwyr, hyfforddwyr a staff sy’n gweithio gyda Thîm Cymru.” 

Cymerodd Cathy ran mewn cystadleuaeth athletau am y tro cyntaf pan oedd hi’n ddim ond 5 oed: “Rwyf wedi bod â diddordeb mawr iawn mewn chwaraeon er pan oeddwn i’n ddim o beth ac rwy’n dal i fwynhau cadw’n ffit. Rwy’n meddwl ei fod e yn y gwaed – roedd mam a dad yn arfer rheoli’r gynghrair athletau ifanc gyda Chlwb Harriers Caerfyrddin ac roedd fy nau frawd hefyd yn dwli ar chwaraeon. Mae fy mrawd Thomas Gareth a minnau yn gyn-bencampwyr athletau Cymru ac mae e bellach yn chwarae tenis i Gymru ac yn brif hyfforddwr gyda Chlwb Tenis Rhiwbina. 

“Roeddwn in cario cit Colin Jackson pan oeddwn i’n blentyn ifanc iawn, ac fe wyddwn i bryd hynny y bydden i’n dilyn gyrfa ym myd chwaraeon – a pha swydd well na gweithio gyda’r goreuon o blith athletwyr Cymru?!”

Ychwanegodd: “Rwy’n frwd iawn dros Gemau’r Gymanwlad. Roedd fy mrodyr a minnau’n arfer cynnal cystadlaethau’r Gymanwlad yn ein gardd gefn ar gyfer plant yr ardal gyda thlysau a medalau a hyd yn oed bodiwm! Fydden i fyth wedi dychmygu y bydden i flynyddoedd yn ddiweddarach yn rhan o daith Tîm Cymru i Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018 – alla i wir ddim aros!”

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’n bleser gennym ni groesawu Cathu i dîm Gemau’r Gymanwlad Cymru. Mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn pob math o chwaraeon ac mae hi’n amlwg yn angerddol dros Gymru.

“Bydd y rôl yma’n cyfrannu’n helaeth at ein capasiti o ran cynllunio a delifro ac yn ein helpu i barhau i weithio’n effeithiol gyda Chwaraeon Cymru a’r cyrff llywodraethu i greu’r amgylchedd gorau bosibl i’n athletwyr rhwng nawr a Gemau 2018.”