Boost for Welsh women’s Rugby 7s as eyes turn towards 2018 Commonwealth Games

Ar gychwyn Wythnos Chwaraeon Menywod 2016, mae sgwad rygbi merched Cymru wedi cael hwb yn sgil arian gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad a Gemau’r Arfordir Aur 2018. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn defnyddio’r arian, a sicrhawyd gan Dîm Cymru, tuag at baratoi sgwad 7 bob ochr i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a gynhelid ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018.

2018 fydd y tro cyntaf erioed i rygbi saith bob ochr merched fod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad. Dyma fydd y cyfle cyntaf i chwaraewyr fel Jaz Joyce – a fu’n rhan o dîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn ddiweddar – i gynrychioli eu cenedl fel rhan o Dîm Cymru. 

Mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i adnabod a datblygu talent ac i ddarparu sesiynau hyfforddi ar gyfer Gemau 2018. Mae hyn cefnogi rhaglen ddatblygu ehangach a sefydlwyd yn dilyn buddsoddiad gan Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’r rhaglen rygbi 7 bob ochr merched wedi bod yn rhedeg dros y 4 blynedd diwethaf gyda’r nod o sicrhau bod sgwad Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i gymhwyso ar gyfer Gemau 2018.

Dywedodd Caroline Spanton, Rheolwraig Rygbi Merched gyda Grwp Undeb Rygbi Cymru: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i rygbi merched ac mae ‘na lawer o chwaraewyr newydd talentog yma yng Nghymru. Mae cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2018 yn uchelgais fawr i ni, ac mae’r cyllid hwn yn hwb mawr yn hynny o beth. 

“Rydyn ni’n barod wedi cynnal diwrnodau talent yng ngogledd a de Cymru, ac mae hynny wedi ein helpu i ddenu chwaraewyr newydd i’r sgwad – yn cynnwys athletwyr o chwaraeon eraill. Rydyn ni’n awr yn cynllunio ar gyfer sesiynau hyfforddi i’n paratoi ymhellach ar gyfer cymhwyso a chystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.”

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Gyda’r gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Rio drosodd, mae golygon yn troi tuag at Gemau’r Gymanwlad 2018. Rydyn ni’n hynod falch fod Undeb Rygbi Cymru yn gweithredu er mwyn sichrau y bydd tîm 7 bob ochr merched Cymru yn cystadlu pan fydd y gêm yn ymddangos yng Ngemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 2018. 

“Rydyn ni’n arbennig o hapus ein bod wedi llwyddo i ddenu cyllid ychwanegol o gronfa Arfordir Aur 2018 Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad er mwyn cefnogi paratoadau sgwad Cymru. Trwy dargedu ymdrechion tuag at gystadlu yn 2018, mae Undeb Rygbi Cymru yn codi proffil Gemau’r Gymanwlad a hefyd yn tynnu sylw at rygbi merched  – sydd yn newyddion gwych i’r gêm yng Nghymru.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Fe welson ni berfformiadau gwych yn ystod gemau rygbi saith bob ochr yn Rio yn cynnwys Jaz Joyce a serennodd ar y llwyfan rhyngwladol. Mae chwaraewyr fel Jaz yn fodelau rôl ardderchog i eraill sy’n anelu at gynrychioli Cymru mewn gemau yn y dyfodol. Rydyn ni’n awyddus i adeiladu ar y sail yma a chreu system sy’n parhau i gynhyrchu chwaraewyr o safon byd eang fel Jaz. Mae yna bartneriaeth gref rhwng Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ac mae’n wych gweld bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu talent yma yng Nghymru a’r timau o hyfforddwyr a staff arbenigol sy’n gweithio’n galed i gyrraedd lefel uchel.”

Gwyliwch ein fideo i weld y sgwad yn hyfforddi ac i glywed yr hyn y byddai cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2018 yn ei olygu iddyn nhw.